Posts

Showing posts from April, 2019

Cyfweld Gwenan Gibbard

Image
Dyma ein cyfweliad gyda Gwenan Gibbard! Diolch Gwenan am eich cyfraniad i'r blog! 1. Eglurwch chydig o eich hanes a beth ydych yn ei wneud o ddydd i ddydd. Mi ges i fy magu ym Mhwllheli, ac wedi mynychu Ysgol Gynradd Cymerau ac wedyn Ysgol Glan y  Môr yn y dref, mi ddechreuais ar fy nghwrs lefel A mewn Cerddoriaeth, Cymraeg a Hanes, a hynny yng Ngholeg Meirion Dwyfor – yr ail flwyddyn o fyfyrwyr i fynd yno.  Oddi yno wedyn, mi es ymlaen i astudio Cerddoriaeth ym Mangor.  Wedi graddio mi wnes radd MA mewn perfformio ac ymchwil i hanes cerddoriaeth Cymru.  Daeth cyfle wedyn i astudio’r delyn yn yr Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain, ac yno bues i am ddwy flynedd yn gwneud diploma mewn perfformio, cyn dychwelyd yn ôl i fy ardal genedigol, ac yn ôl i fyw a gweithio yma.  Yn ffodus iawn, mi ges swydd efo Cwmni Sain a bellach dwi’n gweithio efo’r Cwmni ers dros 15 mlynedd, yn canolbwyntio fwyaf ar gyhoeddi cerddoriaeth brintiedig o bob math, yn drefniannau ar gyfer corau ac yn

Candelas

Image
Dwi'n siwr eich bod wedi clywed am y band Candelas ac os nad ydych chi wedi wel mae cyfweliad gyda'r band wedi ei roi ar y blog yma felly ewch i gael golwg hyd yn oed os ydych chi yn gyfarwydd gyda'r band oherwydd mae pethau diddorol iawn yno er enghraifft tips ar gyfer dechrau band ac yn y blaen. Dyma'r linc:   https://stafellgerdd.blogspot.com/2019/04/cyfweld-candelas.html    Ar ôl i mi gyfweld y band es i'n nol i wrando ar ganeuon y band oherwydd roeddwn i yn arfer gwrando dipyn ar eu CD Bodoli'n Ddistaw ond oherwydd yr holl albyms Cymraeg newydd sydd wedi dod allan yn ddiweddar roeddwn yn beysur yn gwrando ar rheiny roeddwn wedi anghofio am y CD yma. Felly dyma'r amser perffaith i fynd yn nol i wrando ar yr albwm! https://www.amazon.co.uk/Cyffur-Newydd/dp/B00QT25QIE Rhaid i mi gyfadde' mi wnes i wir fwynhau gwrando ar y CD yma a yn syth ar ôl i mi ddechrau gwrando eto daeth yn gwbl glir pam fy mod i wedi gwirioni gyda'r albwm yma pan

Gradd mewn Therapi Cerdd

Image
https://www.bangor.ac.uk/index.php.en Mi wnes i gysylltu gyda darlithydd Cerdd ym Mhrifysgol Bangor sef Gwawr Ifan i holi am therapi cerdd oherwydd bod gen i ddiddordeb yn y maes yma ac roeddwn i yn meddwl y byddai yn ddiddorol i weld beth yn union ydi therapi cerdd. Felly holwyd myfyrwyr yr 2il a 3ydd flwyddyn am therapi cerdd, gan eu bod nhw'n dilyn y modiwlau Cerddoriaeth mewn Iechyd a Lles. Felly dyma chi wybodaeth am therapi cerdd gobeithio y bydd o ddiddordeb i chwi! Diolch yn fawr iawn i bawb wnaeth gymeryd rhan! 1. Beth yn union ydi  therapi   cerdd ? Mae  therapi   cerdd  yn broffesiwn arbenigol sy'n dilyn blynyddoedd o hyfforddiant. Mae therapydd  cerdd  yn helpu amrywiol grwpiau o bobl (e.e. plant awtistig; pobl gyda dementia) drwy gyfrwng cerddoriaeth.  Yn bennaf, mae'n helpu pobl i gyfathrebu pan maent yn ei chael yn anodd i ddefnyddio iaith.  Fel arfer, nid yw'n 'gwella' pobl, ond mae'n eu helpu yn emosiynol ac yn gymdeithasol

Bwncath

Image
Band gwerin o ardal Gaernarfon a ffurfwyd yn 2014 ydi Bwncath ond os na ydych chi yn gyfarwydd gyda'r band dw i yn siwr eich bod yn gyfarwydd gyda'r prif leisydd sef Eildyr Glyn a ennillodd Cân i Gymru eleni gyda'r gân "Fel hyn 'da ni fod". Dyma linc i'r post am y gystadleuaeth Cân i Gymru:  http://stafellgerdd.blogspot.com/2019/03/can-i-gymru.html Albwm Bwncath-  https://sainwales.com/store/sain/rasal-cd042 Rhyddhawyd y band eu albwm Bwncath yn 2017 a hwn yw eu albwm poblogaidd a mae'n hawdd coelio hynny oherwydd mae holl ganeuon yr albwm yn werth chweil ond fy hoff gân i ydi Allwedd. Dw i wrth fy modd gyda'r gân oherwydd mae'r gitar acwstig a'r llais cefndir yn rhoi naws ymlaciol i'r gân. Mae'r geiriau yn amlwg yn adrodd stori trist felly mae hon yn gân emosiynol. Mae'r llais cefndirol yn ychwanegu gwaed a teimlad dyfnach i'r darn. Byddaf yn gwrando ar y gân yma pan fyddaf i angen amser i fy hun ac i ymlacio yn lle

Cyfweld Yr Eira

Image
Dyma ein cyfweliad gyda'r band Yr Eira! Diolch yn fawr am gymeryd rhan yn y blog!  1. Eglurwch chydig am hanes y band. Natho ni ffurfio rhyw 6 mlynedd yn ol ar ol i fi fod yn ysgrifennu a creu demos ar ben ei hun am y tro cyntaf! Natho ni ryddhau dwy gan ac yna recordio sesiwn i Radio Cymru yn 2013 a oedd yn cynnwys caneuon fel Elin a Cadwyni. Yn dilyn hynny natho ni seinio i label I ka Ching, ac yna dros y blynyddoedd 'da ni wedi rhyddhau senglau, EP ac Albym hefo'r label bychan yma! 'Da ni wedi gigio dros Brydain gan gynnwys gwyliau fel T in the Park, Festival No 6 ac Eisteddfodau! 2. Sut fyddech chi yn disgrifio eich cerddoriaeth i unrhyw un sydd ddim mor gyfarwydd a eich cerddoriaeth? Mae'r gerddoriaeth dwi'n meddwl anthemig, sw'n i'n ei ddisgrifio fo fel Dream Pop, lot o gitars shimmery ac alawon canadwy! 3. Pa gan yw eich can gorau fel band? Can gorau i ni berfformio ydi Pan Na Fyddai'n Llon - llawn egni, a diweddglo mawr!

Sorela

Image
    http://www.lisaangharad.com/sorela.html  Tair chwaer o Aberystwyth sydd yn canu acapella ydi Sorela ac y styr y gair Sorela yn Eidaleg yw ‘chwaer’.  Ffurfwyd y tair fel grŵp yn y flwyddyn 2014  ar ôl blynyddoedd o ganu gyda’u mam, Linda Griffiths, o’r grŵp gwerin Plethyn ac o ganlyniad mae arddull canu gwerin yn rhan annatod o’u sain . Mae'r tair yn canu amrywiaeth o wahanol ganeuon sef alawon gwerin traddodiadol Cymreig, clasuron y 50au a'r 90au, heb anghofio y rhai gwreiddiol! Maent yn canu rhain yn y Gymraeg a'r Saesneg. https://sainwales.com/store/sain/sain-scd2755        Mae Sorela wedi cael dipyn o lwyddiant yn cynnwys eu albwm a rhyddhawyd yn y flwyddyn 2016. Mae'r albwm yn cynnwys amrywiaeth o'u caneuon o'r rhai traddodiadol i rai pop. Fy hoff un i o'r albwm yw Blode gan ei bod hi'n hwyliog ac yn chwareus. Dw i'n hoffi geiriau y gân yma hefyd gan eu bod yn ddigri er enghraifft:  "Blode tew blode tenna', ma' nhw

Cyfweld Candelas

Image
 Dyma fand poblogaidd o'r sin roc Gymraeg maent wedi chwarae mewn llawer o gigs a wedi rhyddhau caneuon poblogaidd iawn megis Llwytha'r Gŵn a Brenin Calonnau. Mae eu albwm Llwytha'r Gŵn yn un o fy hoff albymau Cymraeg, felly roedd yn bleser cael eu cyfweld! Dyma sut aeth y cyfweliad:  1. Eglurwch chydig am hanes y band fel sut y ffurfwyd ac yn y blaen? Dyma ni’n ffurfio tua deg mlynedd yn nol wan!!! Roedd ‘na bedwar ohona ni yn chweched dosbarth Ysgol Y Berwyn hefo’n gilydd ac yn ffrindiau gorau felly dyma ni’n penderfynu cychwyn band. Ar ôl rhyw ddwy flynedd o gigio dyma ni’n derbyn aelod newydd i’r band- sef Lewis o Aberdaron. 2. Pa gig ydach chi wedi mwynhau fwyaf a pam? Y gig gorau fyse unai lawnsio ein ail a trydydd albym yn Neuadd Buddug, Y Bala. Mae’r neuadd yma wedi bod yn le arbennig i ni erioed gan ei fod mor lleol ac roedd cael lawnsio’r albyms yno yn brofiad mor arbennig a chynnes. Y gig arall sy’n aros yn  y cof ydi’r gig hefo’r g