Sorela

   
http://www.lisaangharad.com/sorela.html

 Tair chwaer o Aberystwyth sydd yn canu acapella ydi Sorela ac ystyr y gair Sorela yn Eidaleg yw ‘chwaer’. Ffurfwyd y tair fel grŵp yn y flwyddyn 2014 ar ôl blynyddoedd o ganu gyda’u mam, Linda Griffiths, o’r grŵp gwerin Plethyn ac o ganlyniad mae arddull canu gwerin yn rhan annatod o’u sain. Mae'r tair yn canu amrywiaeth o wahanol ganeuon sef alawon gwerin traddodiadol Cymreig, clasuron y 50au a'r 90au, heb anghofio y rhai gwreiddiol! Maent yn canu rhain yn y Gymraeg a'r Saesneg.

https://sainwales.com/store/sain/sain-scd2755

       Mae Sorela wedi cael dipyn o lwyddiant yn cynnwys eu albwm a rhyddhawyd yn y flwyddyn 2016. Mae'r albwm yn cynnwys amrywiaeth o'u caneuon o'r rhai traddodiadol i rai pop. Fy hoff un i o'r albwm yw Blode gan ei bod hi'n hwyliog ac yn chwareus. Dw i'n hoffi geiriau y gân yma hefyd gan eu bod yn ddigri er enghraifft:
 "Blode tew blode tenna', ma' nhw gyd yn rodd. Rho flode i unrhywun bydde nhw wrth eu bodd."
Yn fy marn i mae hon yn gân catchy a hwyliog a dylai pawb fynd at i i wrando arni! Felly dyma linc i'r gân: https://www.youtube.com/watch?v=RUw3gMeB9ss

Comments

Popular posts from this blog

20 Mlynedd ers Rhyddhau Mwng

Iestyn Tyne (Cyfweliad)