Posts

Showing posts from April, 2020

Can y Dydd 09/04/20 / Song of the Day 09/04/20

Image
Dwi'n meddwl mai cerddoriaeth sy'n neud i chi fod eisiau dawnsio ydy'r gerddoriaeth hapus ora. Mae Trials of Cato yn fand gwerin wnaeth argraff go iawn efo'u halbym gynta ha Hide and Hair   rhyddhawyd llynedd. Beth sy'n unigryw amdayn nhw ydy does na'm telyn, ffidil na ffliwt ar eu cyfyl ac eto mae nhw'n llwyddo i ddal afiaith cerddoriaeth werin i'r dim. Yn y band mae gitar acwstig, mandolin a baswci. Camp y band yma ydy sut mae nhw'n amrywio gwead eu cerddoriaeth gan ddefnyddio tawelwch yn ofalus ac effeithiol iawn. Fe wnaeth aelodau'r band gyfarfod pan oedden nhw'n gweithio yn Beirut, Lebanon a fuo nhw'n gweithio ar eu crefft. Cafodd eu halbym gyntaf groeso gwresog ac roedden nhw i fod i fynd i recordio eu hail albwm yn America ond yn amlwg mae hynny i gyd ar stop ar hyn o bryd. Felly, dwi wedi penderfynu rhannu Haf ganddyn nhw yma heddiw, dwi ddim yn gwybod am lle da chi ond mae hi mor braf yma, faswn i ddim yn gallu rannu dim b

Caneuon Hapus CMD Pwllheli 08/04/20

Image
Nes i anghofio bob dim am rhoi 3 cân hapus yn fama ddoe! Dyma'r rhestr chwarae'r gyda'r caneuon i gyd arno fo: Caneuon Hapus CMD Pwllheli 2020 A dyma'r linc i google form os wyt ti eisiau ychwanegu dy ddewisiadau di: Google Form Caneuon Hapus CMD Felly dyma 3 cân hapus arall gan CMD Pwllheli a'r rhesymau dros eu dewis. ----------------------------------------------------------------- I forgot about putting another 3 happy songs here yesterday! Here's the playlist of the happy songs: Caneuon Hapus CMD Pwllheli 2020 And here's the link to the google form if you'd like to add your own choices: Google Form Caneuon Hapus CMD So here's another 3 happy songs form CMD Pwllheli and why they've chosen them. ------------------------------------------------------------------ Cân 1: Bydd Wych gan Rhys Gwynfor Pam fod y gân yma'n dy wneud yn hapus?  Cân amserol, hamddenol, mae'n codi gwen. Cân 2: 59th Bridge Song (Feeli

Cofio Bill Withers / Remembering Bill Withers

Image
Roedd Bill Withers yn ganwr soul  ddaeth i amlygrwydd yn ystod yr 1970au. Pan oedd yn 17 ymunodd a'r llynges yn America a bu'n gwasanaethu yno am 10 mlynedd. Wedi gadael y llynges gweithiodd i amryw gwmniau gan gynnwys ffatri yn gwneud seddi toiledau ar gyfer awyrenau. Yn ystod y cyfnod hwn, symudodd i Los Angeles i gael profiad perfformio; dysgodd ei hun i chwarae'r gitar, casglodd arian i recordio ei demos ei hun a gyda'r nos roedd yn mynd o amgylch clybiau yn canu. Cyn bo hir roedd ganddo ei gytundeb recordio ei hun ac roedd yn cyfansoddi, perfformio a cynhyrchu gyda amryw o ser y 70au. Mae rhai o'r caneuon mae wedi eu cyfansoddi a'u perfformio yn glasuron, Ain't No Sunshine, Lean on Me, Just the Two of Us a Lovely Day . Wythnos diwethaf bu farw yn 81 mlwydd oed. Cyhoeddwyd ei farwolaeth dros y penwythnos diwethaf ac mae nifer o raglenni wedi talu teyrngedau iddo. O'n i am ychwanegu recordiad o Ain't No Sunshine  yn fama gan mod i wrth fy modd

Cofio Adam Schlesinger / Remembering Adam Schlesinger

Image
Tasa chi wedi dweud yr enw Adam Schlesinger wrthai fedrai ddim dweud faswn i'n gwybod pwy oedd o. Tasa chi wedi enwi'r band Fountains of Wayne dwi'n meddwl fasa na rhyw gloch bell wedi canu yng nghefn fy nghof i'n rhywle. Tasa chi wedi enwi'r gan Stacy's Mom  faswn i'n gwybod yn union am be oedda chi'n son. Roedd y gan yma'n anferth yn y 00au. Dwi'n cofio hi'n dod allan achos o'n ym mrig fy ieuenctid. Dwi'm yn siwr os o'n i'n ffan ohoni ar y pryd, o'n licio meddwl mod i'n rhy soffistigedig i gan efo geiria mor wirion. Ond mi oedd hi ymhob man. A chydig nol ddes i ar draws y cyfyr yma: Dwi'n caru'r cyfyr yma a dwi'n meddwl rhywsut mae'n dod a pha mor chwareus ydy'r gan wir allan. Prun bynnag, mae na lot mwy i yrfa Adam Schlesinger na Stacy's Mom. Yn anffodus ddoe, bu farw yn 52 oed achos Covid-19. Gallwch ddarllen ei dudalen wicipedia i weld yr holl raglenni teledu a ffilmiau bu'

Cân y Dydd 02/04/2020 Song of the Day

Image
Dydd Iau, amser cân y diwrnod! Un o fy mhleserau bach mewn bywyd ydy ar nos Sadwrn am 6 o'r gloch. Ma'i bron yn amser i'r bychan fynd i'w wely, da ni wedi cael diwrnod braf yn gwylio chwaraeon/clirio/postian ac wedyn ar 6Music mae'r Craig Charles Funk and Soul Show. Hwn ydy fy "lle hapus" i. Dwi'n gallu dawnsio rownd y gegin, eistedd yn yr ardd, coginio, neu ddarllen ac mae'r gerddoriaeth yma'n berffaith i bob dim, ac yn berffaith ar gyfer nos Sadwrn. Felly, pa gân well i ddechrau'n cyfres o ganeuon dydd Iau ni na chân glywais i ar un o'r rhaglenni yma. Mae See You Next Tuesday yn gân wedi ei chynhyrchu gan ddau artist The Nextmen a'r Gentlemen's Dub Club ac yn cyfuno arddulliau dyb , ffync a reggae yn gelfydd. Mae The Nextmen yn gynhyrchwyr o fri ac wedi ailgymysgu traciau i nifer fawr o fandiau dwi'n siwr fasa chi wedi clywed amdanyn nhw. Mae'r Gentlemen's Dub Club yn fand sydd wedi teithio'r byd efo&#