Posts

Showing posts from December, 2019

Cyngerdd BBC NOW 22/11/2019

Image
Nos Wener (22 o Dachwedd) aeth criw ohonom i gyngerdd BBC NOW yn Neuadd PJ ym Mangor. Mae BBC NOW yn awyddus iawn i fyfyrwyr a disgyblion fynd i'w cyngherddau ac am ei gwneud mor hawdd a phosibl i griwiau fel ni fynd. Felly'r cwbwl oedd ei angen i ni ei wneud oedd trefnu trafnidiaeth i'r cyngerdd. Roedd y gerddorfa'n chwarae Consierto i'r Ffidil yn D fwyaf gan Brahms a Symffoni Rhif 9 gan Dvorak. Yr unawdydd ar y noson oedd Aleksey Semenenko a'r arweinydd oedd Clemens Schuldt. Mae Neuadd PJ yn lle anhygoel i fynd i wylio cerddorfa'n chwarae. Mae'r sain yno yn drawiadol. Roedd posibl clywed pob nodyn roedd yr unawdydd yn ei chwarae er gwaethaf bod y gerddorfa'n llawer mwy niferus. Ac roedd yr unawdydd wir yn firtiwosydd, gan ein gadael yn gegrwdd ar gyfnodau. Mae'r symudiad olaf o'r consierto, ar ffurf rondo ac yn ddarn adnabyddus a chofiadwy. Da oedd cael gweld technegau fel tagiadau dwbwl yn cael eu perfformio yn fyw. Mae'r symffoni gan