Posts

Showing posts from November, 2018

Gŵyl Gerdd Dant Blaenau Ffestiniog a'r Fro 2018

Image
      Blaennau Ffestiniog a'r Fro oedd yn cynnal yr Wŷl Cerdd Dant eleni ac roedd hi'n wŷl i'w chofio! I'r rhai ohonnoch sydd ddim yn siwr beth yw'r wŷl, wel gŵyl llawn traddodiadau Cymreig sydd yn dathlu ein Cymreictod ydyw. Caiff llawer o wahanol gystadleuthau eu cynnal yno er enghraifft cystadleuthau canu a dawnsio gwerin,  canu a cyfeilio i gerdd dant, llefaru i gyfeiliant ac unawdau neu ensamble telynau. Felly mae digon o amrywiaeth yno sydd yn denu llawer o bobl dros Gymru!  Fy mhrofiad i yn yr wŷl gyda Aelwyd Chwilog a Côr Yr Heli       Roedd yr wŷl eleni yn un llwyddiannus iawn i Aelwyd Chwilog. Cymerais i ran yn y parti cerdd dant oedran uwchradd a daethom yn 3ydd. Mwynhais gystadlu yn fawr iawn. Hwn oedd y 3ydd tro yn cystadlu yn yr Wŷl Gerdd Dant gyda'r aelwyd, felly roedd yr holl waith caled yn werth o yn y diwedd. Hoffwn ddiolch yn fawr i Carys Jones am ein hyfforddi gyda'r cerdd dant ond hefyd i Pat Jones am hyfforddi'r alaw werin a Alun