Posts

Showing posts from December, 2018

Cyfweld Cast Sioe Gerdd Gris CMD

Yn flynyddol cynnhelir Sioe Gerdd gan Coleg Meirion Dwyfor Pwllheli a bob blwyddyn mae llawer o fyfyrwyr yn cymeryd rhan. Gris oedd y sioe eleni a dw i'n siwr bod llawer ohonnoch chi yn gyfarwydd â'r sioe ond i'r rhai ohonnoch chi sydd ddim, dyma flas o stori'r sioe. Y ddau brif gymeriad yw Danny a Sandy sef dau gariad sydd wedi cyfarfod dros yr haf ond pan mae Sandy yn ymuno â Ysgol Rydel a'r ôl y gwyliau mae pethau yn wahanol rhwng y ddau. Mae Danny dal mewn cariad gyda Sandy a felly yn ceisio ei hennill yn nôl. Mi nai adael hi i chi i ddarganfod os ydi Danny yn llwyddo! Yng nghanol hyn i gyd mae llawer o bethau yn mynd ymlaen yn yr ysgol a mae gan Sandy grŵp o ffrindiau sef y Pink Ladies tra bod Danny yn rhan o'r grŵp ffrindiau The T Birds. Mae'n sioe llawn hwyl ac yn sicr o ennyn diddordeb llawer. Felly tra roedd yr holl fyfyrwyr yn brysur yn ymarfer ar gyfer y sioe es i o amgylch yn holi ambell un: Lucy Hancock Be ydi dy ran di yn y sioe? Dw i yn c