Posts

Showing posts from March, 2019

Gwilym Bowen Rhys

Image
https://www.gwilymbowenrhys.com/hanes-bio Mae Gwilym Bowen Rhys yn wyneb cyfarwydd i ni yng Nghymru a hynny drwy'r sin roc Gymraeg gyda'r band Y Bandana ond hefyd yn ddiweddar yn y byd canu gwerin ac alawon traddodiadol o Gymru. Yn ddiweddar mae Gwilym wedi bod yn canolbwyntio ar yr alawon traddodiadol o Gymru yn hytrach na'r cerddoriaeth roc oherwydd yn anffodus bu i'r band Y Bandana orffen yn 2016 ond yn yr un flwyddyn rhyddhawyd ei albwm unigol gyntaf sef "O Groth y Ddaear". O Groth y Ddaear  Y tro cyntaf i mi glywed y caneuon o'r albwm yma oedd yn lansiad yr albwm yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy 2016 yn y Tŷ Gwerin. Rhaid cyfadde' mi wnes i fwynhau'r caneuon yn syth oherwydd eu bod yn wahanol i'r hyn roeddwn i wedi bod yn gwrando arnynt o'r blaen oherwydd doeddwn i ddim wedi gwrando llawer ar ganeuon gwerin cynt. Felly roedd yr albwm yma yn rhywbeth newydd i mi a rhaid i mi gyfadde' ers i mi ddod ar draws yr albwm

Cyfweld Lleucu Gwawr

Image
 Es i ati i gyfweld cyn fyfyrwraig Coleg Meirion Dwyfor sef Lleucu Gwawr a holi chydig o gwestiynau iddi am ei chwrs prifysgol a'i swydd rwan. Diolch Lleucu am gymeryd rhan yn y blog! Dyma'r cwestiynau: 1. Pa gwrs wnaethoch chi astudio yn y brifysgol?  Ar ô l astudio Cerdd, Drama, Hanes, Cymraeg (AS) a'r BAC fel cyrsiau Lefel A, mi es i ymlaen i astudio cwrs 'BA Perfformio' yng Nghaerdydd. Roeddwn i'n lwcus iawn hefyd fod y cwrs yma'n cynnig y cyfle i astudio dramor ac felly treuliais 4 mis yn adran 'Theatre Arts' ym mhrifysgol 'California State University Long Beach'. 2. Be yn union oedd cynnwys y cwrs yma?  Roedd y cwrs yn cynnwys hyfforddiant mewn actio, canu a dawnsio dros gyfnod o ddwy flynedd. Golyga hyn fod gennyf wersi o 9 dan 5 o ddydd Llun i ddydd Gwener ac o 9 y bore dan 9 y nos pan yn gweithio ar gynyrchiadau mawr megis 'Deffro'r Gwanwyn', 'RENT' a 'I love you, you're perfect, now chang

Mei Gwynedd

Image
Yn ddiweddar dwi wedi bod yn mwynhau gwrando ar EP newydd Mei Gwynedd â ddaeth allan mis Ionawr sef  Tafla'r Dis.  Mae rhaid i mi gyfadde ers Gwobrau'r Selar dwi wedi dod i fwynhau ei ganeuon oherwydd cyn hyn doeddwn i ddim wedi cymryd llawer o sylw o'i ganeuon, efallai  clywed ambell un ar y radio ond dyna ni. Gan fy mod i wir yn mwynhau'r EP yma ar y funud be well i'w wneud wythnos yma na rhoi adolygiad i chi o'r EP a dewis fy hoff gân i fel y fedrwch fynd ati yn syth i wrando! Fy hoff gân i o'r EP ydi Eistedd Wrth Yr Afon gan ei bod hi mor fywiog. Dw i wrth fy modd gyda'r offeryniaeth oherwydd mae amrywiaeth dda o gitar drydan i'r allweddellau. Wrth ddechrau gwrando ar y gân yma rydych yn disgwyl cân rôc neu pop ond dw i yn teimlo bod yr allweddau yn y darn offerynnol yn rhoi naws gwahanol fwy jazzy iddi. Mae'r lleisiau cefndir yn ychwanegu i'r darn hefyd wrth ganu "ooohhh" yn y cefndir mae hyn yn gwneud y gân yn fwy cofi

Emyr Rhys

Image
Yn dilyn y post diwethaf am Cân i Gymru es i ati i gyfweld Emyr Rhys sydd yn gweithio draw yng nghampws Dolgellau a fo gyfansoddodd y gân Tyrd yn Agos. Dw i wrth fy modd gyda'r gân yma gan ei bod hi mor "catchy" a bywiog. Mae'r riffs ar y gitar a'r lleisiau cefndir yn dod a'r gân yn fyw, yn enwedig yn ystod yr adran offerynnol. Mae hi'n gân llawn hwyl sydd yn gwneud i mi eisiau symud iddi. S4C.Cymru 1. Sut ydach chi yn mynd ati i ddechrau cyfansoddi? Yn anaml iawn byddai'n eistedd i lawr i gyfansoddi efo offeryn yn fy nwylo. Mae'r gân fel arfer yn dod imi tra fy mod i'n gwneud pethau eraill. Yn aml iawn yn hwyr yn y nos. Yna rwy'n mynd i offeryn a recordio'r syniad i'r ffôn er mwyn cadw cofnod ohonni. Ers talwm (cyn ffonau 'smart') roeddwn i'n sgriblo syniadau ar darn o maniwsgript, ond mae hynny'n llai effeithiol. 2. Oes gen y chi unrhyw dips ar gyfer cyfansoddi? Mae angen trio plethu ffrwyth y dychym

Cân i Gymru

Image
S4C.Cymru             Roedd y gystadleuaeth eiconig Cân i Gymru yn dathlu ei phenbwydd yn 50 y flwyddyn yma ac pa ffordd well i ddathlu na i gael chwip o gystadleuaeth dda eto eleni! Rhaid cofio bod Caryl Parry Jones, Bryn Fôn ac Elin Fflur wedi ennill Cân i Gymru a rhain i gyd wedi serenu yn y byd adloniant yng Nghymru. Mae'n saff i ddeud bod y safon wedi bod yn uchel eto eleni.          Rhywbeth sydd bob amser yn dda am y gystadleuaeth hon yw bod digon o amrhywiaeth bob blwyddyn, mae rhywbeth at ddant pawb! Mae caneuon cyflym llawn riffs gitars ond hefyd rhai ysgafnach ac arafach. Mae'n amlwg bod Cân i Gymru yn arddangos y talent sydd genym ni fel y Cymry a mae'n rhywbeth y dylem ni fod yn falch iawn ohonno.          Yn fy marn i roedd yr 8 cân yn haeddu gwobr ond dim ond tri oedd yn cael gwobr felly dw i wedi penderfynu trafod am y 3 cân ddaeth i'r brig sef: 3ydd- Dyfrig Evans- LOL S4C.cymru         Mae'r gân yma yn un hapus sydd yn codi eich calon

Prodigy

Image
Yn anffodus wythnos yma cawsom newyddion hynod drist sef bod y canwr Keith Flint wedi lladd ei hun. Roedd yn cael ei adnabod fel blaenwr y grŵp cerddoriaeth electroneg The Priodgy. I fod yn onest doeddwn i ddim wedi dod ar draws y grŵp yma tan i mi glywed am y newyddion ynglyn â Keith Flint. Felly es i ati i ymchwilio ychydig am y band.       Band cerddoriaeth electronig o Braintree, Essex ydi Prodigy a ffurfiwyd yn 1990 gan y chwaraewr bysellfwrdd a'r cyfansoddwr Liam Howlett. Dyma'r band a wnaeth lwyddo mwyaf a'r mwyaf poblogaidd yn y genre "big beat" a "breakbeat" oherwydd eu llwyddiant yn creu cerddoriaeth electronic. Mae'r band wedi cael teitlau gwahanol yn gwobrwyo eu llwyddiant fel band er enghraifft  "the premiere dance act for the alternative masses"  a  "the Godfathers of Rave".         Ar ôl ymchwilio dipyn yn amlwg roedd rhaid i mi fynd ati i wrando ar dipyn o'u caneuon. Tra roeddwn i yn darllen i fyny am ban

Calan- Solmon

Image
Dydd Gwyl Dewi Hapus! Pa ffordd well i ddathlu na i wrando ar band hudolus o Gymru sydd yn chwarae o gwmpas y byd ond yn rhoi Cymru ar y map! Calan! Band sydd yn cynnwys 5 o gerddorion Cymraeg ifanc a thalentog yw Calan sydd yn rhoi bywyd newydd a bywiog i ganeuon traddodiadol Cymru. Mae'r band yn gwneud hyn drwy eu harmoniau blodeuog ac alawon gwerth tapio eich traed! Maent yn perfformio reels a jigs traddodiadol sydd yn boblogaidd iawn ond yn eu chwarae yn gyflym ac yn gyffrous cyn trawsnewid i rywbeth hudolus a prydferth! calan-band.com   Solomon ydi albwm diweddaraf Calan ond ar ôl i'r band ryddhau eu albwm cyntaf sef Bling yn 2008 cafwyd adolygiad 4 seren gan y gwrandawyr. Ers hynny mae'r band wedi tyfu o nerth i nerth oherwydd bellach mae'r 5 yn chwarae yn fyw i gynulleidfaoedd mawr mewn cyngherddau ac amryw wyliau dros y byd er enghraifft: Gwyl Gaergrawnt  Celtic Connections Gŵyl Werin Amwythig  Gŵyl Werin Moseley  Gwyl Werin Derby  Gwyl Werin Bromy