Posts

Showing posts from August, 2020

Penblwydd Hapus Geraint Jarman

Image
Dechrau'r wythnos hon roedd arwr y Sin Roc Gymraeg, Geraint Jarman yn dathlu ei benblwydd yn 70. Dyma gyfweliad efo fo ar wefan y BBC: https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/53802556 Mae Geraint Jarman yn un o'r rhain blaenllaw wnaeth ddatblygu gwir arddull pop drwy gyfrwng y Gymraeg. Daeth i amlygrwydd gyda'r band Bara Menyn (gyda Heather Jones a Meic Stevens) cyn rhyddhau ei albwm unigol Gobaith Mawr y Ganrif   yn 1976. Gwnaeth yr albwm yma argraff mawr gan ei bod yn dangos dylanwad reggae cryf.  Dyma dair albwm gan Geraint Jarman i roi cynnig arni: Hen Wlad fy Nhadau (1978) - yr albwm sy'n agor gyda un o draciau mwya eiconig yr iaith Gymraeg, Etheopia Newydd .  Rhiniog (1992) - dwi'n cofio  Tracsiwt Gwyrdd  yn cael ei chwarae'n ddibaid ar y radio pan o'n i'n blentyn.  Brecwast Astronot  (2011) - un o albymau diweddar Jarman yn llawn traciau cofiadwy ac yn dal i swnio'n fodern ac arloesol.  Mae mwy o wybodaeth ar Geraint Jarman yma:  https://cy.wikipedia.o

Enillydd Albwm Cymraeg y Flwyddyn - Mirores gan Ani Glass

Image
Dechrau Awst cyhoeddwyd Mirores  gan Ani Glass yn Albwm Cymraeg y Flwyddyn 2020.    Mae Ani Glass yn artist sy'n perfformio cerddoriaeth electronig. Mae mwy o'i hanes ar wefan Y Selar yma: https://selar.cymru/2020/mirores-yn-ennill-teitl-albwm-cymraeg-y-flwyddyn/ Mae'n sicr yn albwm drawiadol iawn, a dwi'n eich annog i fynd i wrando arni. Dwi'n siwr y bydd herio eich syniad o beth ydy "Cerddoriaeth Gymreig".  https://open.spotify.com/album/7dn4099zYJEOIXZwDnPNR6?si=fkCGYO4NR0OZNippep9D5A ----------------------------------------------------- At the beginning of August Mirores  by Ani Glass was announced Albwm Cymraeg y Flwyddyn for 2020.  Ani Glass is an artist which performs electronig music. Ani is a seasoned performer and has been a member of The Pippettes and The Lovely Wars before releasing solo music. After her solo EP "Y Ffrwydra Tawel" this is her first album.  Mirores comes from the Cornish word Miras which is "to see" and sugg