Posts

Showing posts from September, 2018

Mellt - Mae'n Hawdd Pan Ti'n Ifanc (Adolygiad / Review)

Image
Bob blwyddyn ers 2013 mae gwobr Albwm Gymraeg y Flwyddyn yn cael ei rhoi yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Felly ar ddechra gwylia ha dwi'n trio gwrando ar rhan fwya o’r albymau sydd ar y rhestr fer, a dewis fy ffefryn. Waeth i fi fod yn onest ddim, nes i anghofio bob dim am y peth leni. Dwi'm yn meddwl i fi glywed dim byd i'w wneud â'r wobr tan i fi gofio amdani ganol Awst. P'run bynnag, gan mod i gymaint ar ei hôl hi leni dwi di mynd yn syth i wrando ar yr albwm nath ennill - Mae'n Hawdd Pan Ti'n Ifanc gan Mellt. Llun o Facebook Mellt Does na ddim amheuaeth bod y band yma’n gwybod sut i drin geiriau ac er sgen i ddim llawer o ddiddordeb mewn geiria fel arfer dyma un o fy hoff betha i am yr albwm yma. Mae’r geiria mor glyfar, mor fachog, mor fodern, yn gweddu’n berffaith fel cyferbyniad i’r gerddoriaeth fasa’n ffitio’n hollol iawn yn y 00a’ a chynt. Dydy hynny ddim i ddweud nad ydy'r gerddoriaeth yn dda hefyd. Mae cordiau cyntaf trawiadol yr alb

Croeso / Welcome

Dyma dudalen groeso i'r blog. This is the welcome page to the blog.  http://stafellgerdd.blogspot.com/p/cerdd-coleg-meirion-dwyfor.html