Posts

Showing posts from January, 2022

Pam Astudio Cerdd? || Why Study Music?

Image
  Dwi wedi bod yn meddwl yn diweddar, beth ydy'r pwynt astudio cerddoriaeth? Na, dwi ddim yn cael creisis, dim ond meddwl pam mod i wedi ei astudio? Beth sy'n ei wneud yn bwnc apelgar? Pam fasa cyflogwyr eisiau cyflogi rhywun sydd wedi astudio cerdd lefel A, neu gael gradd yn y pwnc?  Un o'r rhesymau nes i ddewis astudio cerddoriaeth ydy'r amrywiaeth sydd i'w gael wrth astudio perfformio, cyfansoddi ac arfarnu. Mae'r cyfleoedd am brofiadau amrywiol yn golygu nad ydy'r pwnc byth yn mynd yn ddiflas, heb sôn am yr amrediad eang o gerddoriaeth sydd ar gael i'w astudio. Felly, dyma restr o'r sgiliau mae astudio cerddoriaeth yn ei ddatblygu a sut mae hynny'n digwydd yn eithaf naturiol o fewn y pwnc: Gweithio gydag eraill - perfformio mewn ensemble, trefnu digwyddiadau. Cyfathrebu  - trafod wrth arfarnu yn y dosbarth, cyfleu neges wrth berfformio. Rheoli Amser  - cadw trefn ar nifer o agweddau gwahanol o'r gwaith gan roi tasgau mewn mewn pryd, ymar