Posts

Showing posts from January, 2019

Hoff gân Queen

Image
Llun: Stereogum  Rwy'n siwr eich bod wedi clywed am y fflim, Bohemian Rhapsody (mae'n boblogaidd iawn!). Mae'r ffilm wedi ennil dipyn o wobrau a mae brolio mawr wedi bod. Mae hon yn fflim gwerthchweil i unrhywun sydd â diddordeb mewn cerddoriaeth yn enwedig oherwydd ein bod ni ar ganol astudio Roc a Pop fel rhan o ein cwrs AS Cerddoriaeth. Felly es i ati i holi rhai o fy ffrindiau am eu hoff trac gan y band Queen. Alaw Another One Bites The Dust - Heb unrhyw amheuaeth dyma fy hoff gân gan y band oherwydd mae'n gwneud i chi eisiau symud eich traed i'r beat yn syth oherwydd mae'r bas yn ei gwneud yn "catchy" a mae'r riffs ar y gitar a'r clapio yn ei gwneud yn gofiadwy! Erin Don't stop me know - Dyma fy hoff gân oherwydd mae hi'n glasur o gân ac yn un sydd yn aros yn y cof ar ôl gwrando arni unwaith. Rheswm arall dros dewis y gân yma fel fy ffefryn ydi ei bod hi yn gân mor "catchy" ac yn sicr byddwch yn ei chanu yn eich p

Miskin

Image
  Llun: Kristina Banholzer Mae Miskin yn fand lleol cyffrous â ffurfwyd yn Coleg Meirion Dwyfor. Mae'r band yn tyfu o nerth i nerth a rwyf yn edrych ymlaen i glywed mwy o eu caneuon a eu gweld mewn mwy o ddigwyddiadau i ddod. Diolch yn fawr i'r band am gyfrannu i'r blog drwy gymeryd amser i ateb ein cwestiynau.  1. Eglurwch chydig am hanes y band fel sut y ffurfwyd ac yn y blaen. Dani bellach yn mynd o dan yr enw Miskin, ond yn wreiddiol ffurfwyd Pyroclastig (enw’r band yn wreiddiol) yng Ngholeg Meirion-Dwyfor, Pwllheli. Roeddwn i wastad wedi isio bod mewn band, felly roedd cychwyn coleg yn gyfla perffaith i ffeindio rei erill oedd hefyd awydd bod mewn band. Ar ol dipyn o lwyddiant hefo gigs penderfynom fynd i’r stiwidio i recordio EP gaeth ei ryddhau dan label Rasal (Sain) yn ystod haf 2017. Ymunodd Llew Glyn ar y gitar yn ar ol haf 2017, a fe adawodd Kieran Roberts (allweddell) y band, nath hynny newid dipyn ar swn y band, felly penderfynom gael llechan la