Iestyn Tyne (Cyfweliad)
Roedd Iestyn Tyne’n fyfyriwr yn y Coleg rhwng 2013-2015, mae o’n fardd ac yn ffeiolinydd gwerin ardderchog. Yr haf yma cafodd gyfuno ei ddau ddiddordeb, barddoni a cherddoriaeth werin yn rhan o’r band Pendevig. Diolch yn fawr iddo fo am dreulio ei amser i gyfrannu i'r blog. 1. Eglura chydig o dy hanes a beth wyt ti'n ei wneud dyddia yma. Llun: Richard P. Walton Rydw i'n fab ffarm o Ben Llŷn sydd bellach yn byw yn Nhwthill, Caernarfon. Cefais fy addysg gynnar yn Ysgol Gynradd Pentreuchaf cyn symud ymlaen i Ysgol Uwchradd Botwnnog a Choleg Meirion Dwyfor, Pwllheli. Saesneg oedd iaith yr aelwyd adref, ond mi ddysgais i siarad Cymraeg yn gyflym iawn yn yr ysgol ac mae wedi bod yn rhan annatod o fy mywyd ers hynny. Graddiais yn y Gymraeg o Brifysgol Aberystwyth eleni. Jyglo sawl peth ydi fy hanes i ar hyn o bryd! Am dridiau yr wythnos, dwi'n gweithio fel cyfieithydd i Gyngor Sir Conwy. Rydw i yno ers rhyw dair mis bellach, ac yn mwynhau'r gwaith. Rydw i'n t...
Comments
Post a Comment