Posts

Showing posts from October, 2018

Y Ffynnon: Ifan Price

A hithau'n agosau at fod yn fis "sioe gerdd" dyma flas o erthygl Ifan Price sydd i'w gweld yn y rhifyn diweddaraf o bapur bro'r Ffynnon. Sioe Grîs gan Ifan Price   Mae’r teimlad o gymuned yn gryf yn y coleg fel arfer, ond pan mae’n dymor sioe gerdd mae’r elfen o gymuned yn dod allan yn gryfach eto. Mae disgyblion ail flwyddyn, fel fi, a disgyblion newydd o’r flwyddyn gyntaf i gyd yn dod efo’i gilydd i gael ychydig o hwyl a pherfformio. Mae’n helpu pawb sy’n cymryd rhan, yn enwedig rhai blwyddyn gyntaf i setlo fewn i le newydd, wrth gymysgu efo disgyblion fasa chdi ddim yn cymysgu efo nhw fel arfer. Dwi wedi gwneud llond llaw o ffrindiau newydd yn barod. Roedd y syniad o actio bob tro yn apelio ata i gan fy mod wrth fy modd yn perfformio ar lwyfan, ond ar gyfer person arferol yn yr ardal nid oes llawer o gyfleoedd. ... I ddarllen gweddill beth sydd gan Ifan i'w ddweud, prynnwch gopi o'r Ffynnon.  Mae'r tocynnau ar gyfer y sioe ar gael yn Ne

Sgt. Pepper’s Lonely Hearts Club Band (Beatles) (Adolygiad / Review)

Image
Ar gyfer uned Roc a Phop AS, rydym wedi dechrau drwy edrych ar Sgt. Pepper’s Lonely Hearts Club Band  a'r ddau drac Strawberry Fields Forever a Penny Lane  gan y Beatles. Dyma hoff draciau’r myfyrwyr a fi oddi ar yr albwm. Llun Clawr Mali: Fy hoff drac allan o’r albwm Sgt. Pepper’s Lonely Hearts Club Band yw With a Little Help From My Friends . Rwyf yn hoff o’r gân yma gan fy mod yn hoffi’r cyfuniad yma o offerynnau, cit drymiau, piano a gitâr. Rwyf hefyd yn meddwl gall llawer o bobl uniaethu gyda’r geiriau ac fellyn yn gwneud i’r trac fod yn fwy cofiadwy. Mae’r cordiau piano staccato yn gweithio’n dda gyda’r rhythm trawsacennog sy’n cael ei chwarae ar y cit drymiau sy’n wahanol i ganeuon eraill. Gronw: Penny Lane yw fy hoff drac i o’r albwm oherwydd ei fod yn arddull sioe gerdd. Rwyf yn hoff o’r bas disgynnol a’r cordiau bloc sy’n apelgar iawn. Rwyf yn hoff iawn o’r gohiriannau yn y gân ac mae hyn yn eich hudo i wrando mwy. Mae’r stori tu ôl i’r gân yn ei gwneud hi

Blur - Blur (Adolygiad / Review)

Image
This blog is meant as a place for students to contribute and share work and ideas and this is the first installment! Iona is a student in the second year and is studying Art and Design as well as the Welsh Bac. This is her review: Blur - Blur I'd like to review my favourite album at the moment which is the band Blur’s album Blur. This album is their fifth released, it came out back in February 1997 and features a total of 14 songs, including 4 of their best singles. Britpop as a genre had been very unsuccessful in the US until their single Song 2 dropped, that led to this album being the band’s best in the US. This album was quite a stylistic change from Blur’s usual heavier music, but the risk paid off when this became one of their most successful albums of all time. This album was more influenced by American indie pop, due to guitarist Graham Cox taking more responsibility for the band’s musical direction. I personally love this album for many reasons, mainly being be

Iestyn Tyne (Cyfweliad)

Image
Roedd Iestyn Tyne’n fyfyriwr yn y Coleg rhwng 2013-2015, mae o’n fardd ac yn ffeiolinydd gwerin ardderchog. Yr haf yma cafodd gyfuno ei ddau ddiddordeb, barddoni a cherddoriaeth werin yn rhan o’r band Pendevig. Diolch yn fawr iddo fo am dreulio ei amser i gyfrannu i'r blog. 1. Eglura chydig o dy hanes a beth wyt ti'n ei wneud dyddia yma. Llun: Richard P. Walton Rydw i'n fab ffarm o Ben Llŷn sydd bellach yn byw yn Nhwthill, Caernarfon. Cefais fy addysg gynnar yn Ysgol Gynradd Pentreuchaf cyn symud ymlaen i Ysgol Uwchradd Botwnnog a Choleg Meirion Dwyfor, Pwllheli. Saesneg oedd iaith yr aelwyd adref, ond mi ddysgais i siarad Cymraeg yn gyflym iawn yn yr ysgol ac mae wedi bod yn rhan annatod o fy mywyd ers hynny. Graddiais yn y Gymraeg o Brifysgol Aberystwyth eleni. Jyglo sawl peth ydi fy hanes i ar hyn o bryd! Am dridiau yr wythnos, dwi'n gweithio fel cyfieithydd i Gyngor Sir Conwy. Rydw i yno ers rhyw dair mis bellach, ac yn mwynhau'r gwaith. Rydw i'n t