Candelas
Dwi'n siwr eich bod wedi clywed am y band Candelas ac os nad ydych chi wedi wel mae cyfweliad gyda'r band wedi ei roi ar y blog yma felly ewch i gael golwg hyd yn oed os ydych chi yn gyfarwydd gyda'r band oherwydd mae pethau diddorol iawn yno er enghraifft tips ar gyfer dechrau band ac yn y blaen. Dyma'r linc:
Ar ôl i mi gyfweld y band es i'n nol i wrando ar ganeuon y band oherwydd roeddwn i yn arfer gwrando dipyn ar eu CD Bodoli'n Ddistaw ond oherwydd yr holl albyms Cymraeg newydd sydd wedi dod allan yn ddiweddar roeddwn yn beysur yn gwrando ar rheiny roeddwn wedi anghofio am y CD yma. Felly dyma'r amser perffaith i fynd yn nol i wrando ar yr albwm!
![]() |
https://www.amazon.co.uk/Cyffur-Newydd/dp/B00QT25QIE |
Gan fy mod i wedi bod yn gwrando ar yr albwm yma gymaint yn ddiweddar hoffwn rannu gyd chi fy hoff gân o'r albwm. Heb amheuaeth fy hoff un i ydi Llwytha'r gwn oherwydd ei bod hi yn sefyll allan oherwydd bod Alys Williams yn canu gyda'r band ond rwyf yn teimlo bod mwy o emosiwn yn yr un yma hefyd. Mae tempo arafach i'r gân yma sydd yn helpu i greu'r naws o emosiwn yma ond mae'r gân yn bywiogi yn y gytgan oherwydd mae'r gwead yn tewhau oherwydd mae'r lleisiau yn canu ar y cyd ac mae'r drymiau yn chwarae yn llawnach ar gitar yn cyfeilio drwy chwarae apreggios.
Fy hoff ran i o'r gân ydi'r darn offerynnol oherwydd i mi dyma uchafbwynt y gân oherwydd mae'r gitar drydan yn chwarae cordiau pwerus a'r drymiau yn cyfeilio drwy chwarae ar bob curiad. I mi mae'r gân yn dal i adeiladu ar y gwead o'r darn yma yn enwedig pan mae Osian yn dal nodyn Alys yn y cefndir fel atsain. Mae hon yn gân bwerus iawn yn fy marn i oherwydd mae hi'n gân emosiynol ond hefyd yn un sydd yn eich cael i symud eich traed. Gwych!
Dyma linc i'r gân: https://www.youtube.com/watch?v=_EbzhLO_EfA
Mwynhewch!
Comments
Post a Comment