Posts

Showing posts from November, 2019

Cyngerdd Ensemble Cymru 04/11/2019

Image
Ddechrau'r mis bu rai o'r myfyrwyr cerdd a minnau yng nghyngerdd Ensemble Cymru yn Neuadd Dwyfor. Mae Ensemble Cymru yn grŵp offerynnol sy'n perfformio gweithiau siambr ac yn hyrwyddo gweithiau gan gyfansoddwyr Cymreig cyfoes. Rydym wedi bod yn ceisio mynychu'r cyngherddau tymhorol yma gan eu bod yn cyflwyno rhaglen ddifyr o gerddoriaeth. Ac maent gyngerddau da i fynd iddyn nhw gan eu bod nhw'n eithaf byr, ac yn cynnwys paned o de a chacen gri! Eleni yn lle cynnal cyngerdd byr mae'r Ensemble yn perfformio rhaglen chydig yn hirach. Y rhaglen cawsom ei chlywed oedd Wythawd Schubert a darn newydd sbon gan John Metcalf. Heb os, fy uchafbwynt o'r cyngerdd i mi oedd darn John Metcalf. Roedd y cyfansoddwr yno'n trafod ei waith ac yn egluro ei ddehongliad gwahanol o'r ffurf Thema ac Amrywiadau. Mae alaw werin Gymreig yn cael ei dadorchuddio'n raddol drwy'r darn gyda'r thema yn cael ei glywed yn gyflawn ar y diwedd yn lle ar y dechrau.

Cyngerdd Llyfrgell / Library Concert

Image
Dewch i weld myfyrwyr cerdd y coleg yn perfformio yng ngyntedd Neuadd Dwyfor a Llyfrgell Pwllheli ar y 29ain o Dachwedd. Byddant yn perfformio darnau offerynnol unawdol a rhai'n canu darnau o'r sioe gerdd Siop y Siambr Arswyd .  -------------------------------------- Come and see music students from the college perform in the reception of Neuadd Dwyfor and the Library on the 29th of November.  They'll be performing individual instrumental pieces and some will be singing songs from our recent performance of the Little Shop of Horrors .