Posts

Showing posts from May, 2020

20 Mlynedd ers Rhyddhau Mwng

Image
Mae heddiw'n 20 mlynedd i'r diwrnod ers i'r albwm mwyaf poblogaidd yr iaith Gymraeg gael ei rhyddhau, sef Mwng gan y Super Furry Animals. Fe gyrhaeddodd yr albwm, sy'n cynnwys caneuon Cymraeg yn unig, rhif 11 yn siart yr albyms yn yr DU a chael sylw enfawr ledled y byd. Teithiodd y band ar draws y byd gan berfformio caneuon o'r albwm i ganmoliaeth uchel.  Mae llawer o'r caneuon yn cadw at y fformat pop-gwerin syml sydd i'w glywed yng nghaneuon y grwp. Ond yn wahnaol i albyms eraill y band, mae'r trefnianau ar Mwng yn cael eu cadw'n eithaf syml hefyd.   Heb os, dyma un o'r albyms sydd wedi cael y dylanwad mwyaf ar y iaith Gymraeg a Chymreictod, gan ysbrydoli pobl ar hyd a lled i byd i ddysgu am y wlad a'r iaith. Mae hi'n bwysig sylwi dylanwad yr albwm ar gerddoriaeth Gymraeg, un o'r pethau cyntaf i Band Pres Llareggub ei ryddhau oedd eu fersiwn nhw eu hunain o'r albym gyfan.  Felly i ddathlu heddiw beth am wrando ar Mwng i gyd ar e

Shards & Isolation Choir

Image
Dyma drac i mi ei chlywed ar y radio chydig wythnosa nol. Mae o'n ddarn mor hardd am y sefyllfa yda ni ynddi dyddia ma. A dwi wrth fy modd efo'r geiria: If I can't take flight then inside I'll sing Dyma'r fideo oddi ar youtube ac mae posibl ei ffeindio ar spotify hefyd.      Mae'r gan ar ffurf stroffig (penillion) ac mae'n werth gwrando ar y trefniant gwahanol sydd ymhob pennill.  -------------------------------------------------------- Here's a track I heard on the radio a few weeks back. It's a beautiful piece about the situation we're in these days. And I think the words are beautiful: If I can't take flight then inside I'll sing. Here's the video which is on youtube and it's possible to find the song on spotify as well. The song is in strophic form (verses) and it's lovely to listen how the arrangement of each verse is different.