Posts

Showing posts from February, 2020

Cyngerdd BBC Philharmonic, Neuadd Bridgewater, Manceinion 18/01/2020

Image
Daeth criw Cerdd CMD Pwllheli a chriw Cerdd CMD Dolgellau at ein gilydd i fynd am drip ar fore oer fis Ionawr. Roedden ni'n mynd i Fanceinion i gael gweld un o ddarnau mwyaf arloesol a chyffrous y Cyfnod Rhamantaidd sef  Symphonie Fantastique  gan Berlioz. Wedi cyrraedd Manceinion a mynd i ymweld a siop gerdd enwog Forsyth, piciad o gwmpas chydig o siopa a chael swper (gweler y llun). Aethom ni i Neuadd Bridgewater i weld Cerddorfa Ffilharmonig y BBC. I ddechrau'r cyngerdd roedden nhw'n chwarae  Night Ferry  gan y cyfansoddwr Anna Clyne. Roedd na elfennau rhaglennol difyr o'r darn yma gyda theimlad cerddoriaeth ffilm iddo fo.  Roedd o hefyd yn gyfle i weld nifer o dechnegau offerynnol diddorol yn cael eu defnyddio. Wedyn roedden nhw'n chwarae  The Lark Ascending  gan Vaughan Williams. Yr unawdydd oedd Jennifer Pike. Mae hwn yn ddarn andros o hudol ac roedd Jennifer Pike yn ei chwarae i gyd efo'i llygaid ar gau bron. Anhygoel. Yn yr ail hanner roedd y g