Posts

Cyngerdd BBC Philharmonic, Neuadd Bridgewater, Manceinion 18/01/2020

Image
Daeth criw Cerdd CMD Pwllheli a chriw Cerdd CMD Dolgellau at ein gilydd i fynd am drip ar fore oer fis Ionawr. Roedden ni'n mynd i Fanceinion i gael gweld un o ddarnau mwyaf arloesol a chyffrous y Cyfnod Rhamantaidd sef  Symphonie Fantastique  gan Berlioz. Wedi cyrraedd Manceinion a mynd i ymweld a siop gerdd enwog Forsyth, piciad o gwmpas chydig o siopa a chael swper (gweler y llun). Aethom ni i Neuadd Bridgewater i weld Cerddorfa Ffilharmonig y BBC. I ddechrau'r cyngerdd roedden nhw'n chwarae  Night Ferry  gan y cyfansoddwr Anna Clyne. Roedd na elfennau rhaglennol difyr o'r darn yma gyda theimlad cerddoriaeth ffilm iddo fo.  Roedd o hefyd yn gyfle i weld nifer o dechnegau offerynnol diddorol yn cael eu defnyddio. Wedyn roedden nhw'n chwarae  The Lark Ascending  gan Vaughan Williams. Yr unawdydd oedd Jennifer Pike. Mae hwn yn ddarn andros o hudol ac roedd Jennifer Pike yn ei chwarae i gyd efo'i llygaid ar gau bron. Anhygoel. Yn yr ail hanner...

Dydd Miwsig Cymru - Celebrating Welsh Music 07/02/2020

Image
Ar ddydd Gwener, Chwefror y 7fed byddwn yn dathlu Dydd Miwsig Cymru. Fel rhan o weithgareddau'r diwrnod rydym yn casglu hoff ganeuon staff a myfyrwyr y grŵp. Byddwn yn casglu'r caneuon i greu rhestr chwarae. Dyma'r linc i gofnodi dy hoff gân di. Holiadur Dydd Miwsig Cymru ---------------------------------------------------- On Friday, the 7th o February we'll be having a day of Celebrating Welsh Music. As a part of the activities we're collecting the favourite Welsh song form gllm staff and students. After which we'll be making a playlist of them. This is the link to note your favourite song. Celebrating Welsh Music Questionnaire

Cyngerdd BBC NOW 22/11/2019

Image
Nos Wener (22 o Dachwedd) aeth criw ohonom i gyngerdd BBC NOW yn Neuadd PJ ym Mangor. Mae BBC NOW yn awyddus iawn i fyfyrwyr a disgyblion fynd i'w cyngherddau ac am ei gwneud mor hawdd a phosibl i griwiau fel ni fynd. Felly'r cwbwl oedd ei angen i ni ei wneud oedd trefnu trafnidiaeth i'r cyngerdd. Roedd y gerddorfa'n chwarae Consierto i'r Ffidil yn D fwyaf gan Brahms a Symffoni Rhif 9 gan Dvorak. Yr unawdydd ar y noson oedd Aleksey Semenenko a'r arweinydd oedd Clemens Schuldt. Mae Neuadd PJ yn lle anhygoel i fynd i wylio cerddorfa'n chwarae. Mae'r sain yno yn drawiadol. Roedd posibl clywed pob nodyn roedd yr unawdydd yn ei chwarae er gwaethaf bod y gerddorfa'n llawer mwy niferus. Ac roedd yr unawdydd wir yn firtiwosydd, gan ein gadael yn gegrwdd ar gyfnodau. Mae'r symudiad olaf o'r consierto, ar ffurf rondo ac yn ddarn adnabyddus a chofiadwy. Da oedd cael gweld technegau fel tagiadau dwbwl yn cael eu perfformio yn fyw. Mae'r symffoni gan...

Cyngerdd Ensemble Cymru 04/11/2019

Image
Ddechrau'r mis bu rai o'r myfyrwyr cerdd a minnau yng nghyngerdd Ensemble Cymru yn Neuadd Dwyfor. Mae Ensemble Cymru yn grŵp offerynnol sy'n perfformio gweithiau siambr ac yn hyrwyddo gweithiau gan gyfansoddwyr Cymreig cyfoes. Rydym wedi bod yn ceisio mynychu'r cyngherddau tymhorol yma gan eu bod yn cyflwyno rhaglen ddifyr o gerddoriaeth. Ac maent gyngerddau da i fynd iddyn nhw gan eu bod nhw'n eithaf byr, ac yn cynnwys paned o de a chacen gri! Eleni yn lle cynnal cyngerdd byr mae'r Ensemble yn perfformio rhaglen chydig yn hirach. Y rhaglen cawsom ei chlywed oedd Wythawd Schubert a darn newydd sbon gan John Metcalf. Heb os, fy uchafbwynt o'r cyngerdd i mi oedd darn John Metcalf. Roedd y cyfansoddwr yno'n trafod ei waith ac yn egluro ei ddehongliad gwahanol o'r ffurf Thema ac Amrywiadau. Mae alaw werin Gymreig yn cael ei dadorchuddio'n raddol drwy'r darn gyda'r thema yn cael ei glywed yn gyflawn ar y diwedd yn lle ar y dechrau. ...

Cyngerdd Llyfrgell / Library Concert

Image
Dewch i weld myfyrwyr cerdd y coleg yn perfformio yng ngyntedd Neuadd Dwyfor a Llyfrgell Pwllheli ar y 29ain o Dachwedd. Byddant yn perfformio darnau offerynnol unawdol a rhai'n canu darnau o'r sioe gerdd Siop y Siambr Arswyd .  -------------------------------------- Come and see music students from the college perform in the reception of Neuadd Dwyfor and the Library on the 29th of November.  They'll be performing individual instrumental pieces and some will be singing songs from our recent performance of the Little Shop of Horrors . 

Cyfweld Gwenan Gibbard

Image
Dyma ein cyfweliad gyda Gwenan Gibbard! Diolch Gwenan am eich cyfraniad i'r blog! 1. Eglurwch chydig o eich hanes a beth ydych yn ei wneud o ddydd i ddydd. Mi ges i fy magu ym Mhwllheli, ac wedi mynychu Ysgol Gynradd Cymerau ac wedyn Ysgol Glan y  Môr yn y dref, mi ddechreuais ar fy nghwrs lefel A mewn Cerddoriaeth, Cymraeg a Hanes, a hynny yng Ngholeg Meirion Dwyfor – yr ail flwyddyn o fyfyrwyr i fynd yno.  Oddi yno wedyn, mi es ymlaen i astudio Cerddoriaeth ym Mangor.  Wedi graddio mi wnes radd MA mewn perfformio ac ymchwil i hanes cerddoriaeth Cymru.  Daeth cyfle wedyn i astudio’r delyn yn yr Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain, ac yno bues i am ddwy flynedd yn gwneud diploma mewn perfformio, cyn dychwelyd yn ôl i fy ardal genedigol, ac yn ôl i fyw a gweithio yma.  Yn ffodus iawn, mi ges swydd efo Cwmni Sain a bellach dwi’n gweithio efo’r Cwmni ers dros 15 mlynedd, yn canolbwyntio fwyaf ar gyhoeddi cerddoriaeth brintiedig o bob math, yn drefniannau a...

Candelas

Image
Dwi'n siwr eich bod wedi clywed am y band Candelas ac os nad ydych chi wedi wel mae cyfweliad gyda'r band wedi ei roi ar y blog yma felly ewch i gael golwg hyd yn oed os ydych chi yn gyfarwydd gyda'r band oherwydd mae pethau diddorol iawn yno er enghraifft tips ar gyfer dechrau band ac yn y blaen. Dyma'r linc:   https://stafellgerdd.blogspot.com/2019/04/cyfweld-candelas.html    Ar ôl i mi gyfweld y band es i'n nol i wrando ar ganeuon y band oherwydd roeddwn i yn arfer gwrando dipyn ar eu CD Bodoli'n Ddistaw ond oherwydd yr holl albyms Cymraeg newydd sydd wedi dod allan yn ddiweddar roeddwn yn beysur yn gwrando ar rheiny roeddwn wedi anghofio am y CD yma. Felly dyma'r amser perffaith i fynd yn nol i wrando ar yr albwm! https://www.amazon.co.uk/Cyffur-Newydd/dp/B00QT25QIE Rhaid i mi gyfadde' mi wnes i wir fwynhau gwrando ar y CD yma a yn syth ar ôl i mi ddechrau gwrando eto daeth yn gwbl glir pam fy mod i wedi gwirioni gyda'r albwm yma pan ...