Iestyn Tyne (Cyfweliad)

Roedd Iestyn Tyne’n fyfyriwr yn y Coleg rhwng 2013-2015, mae o’n fardd ac yn ffeiolinydd gwerin ardderchog. Yr haf yma cafodd gyfuno ei ddau ddiddordeb, barddoni a cherddoriaeth werin yn rhan o’r band Pendevig. Diolch yn fawr iddo fo am dreulio ei amser i gyfrannu i'r blog.

1. Eglura chydig o dy hanes a beth wyt ti'n ei wneud dyddia yma.

Llun: Richard P. Walton
Rydw i'n fab ffarm o Ben Llŷn sydd bellach yn byw yn Nhwthill, Caernarfon. Cefais fy addysg gynnar yn Ysgol Gynradd Pentreuchaf cyn symud ymlaen i Ysgol Uwchradd Botwnnog a Choleg Meirion Dwyfor, Pwllheli. Saesneg oedd iaith yr aelwyd adref, ond mi ddysgais i siarad Cymraeg yn gyflym iawn yn yr ysgol ac mae wedi bod yn rhan annatod o fy mywyd ers hynny. Graddiais yn y Gymraeg o Brifysgol Aberystwyth eleni.

Jyglo sawl peth ydi fy hanes i ar hyn o bryd! Am dridiau yr wythnos, dwi'n gweithio fel cyfieithydd i Gyngor Sir Conwy. Rydw i yno ers rhyw dair mis bellach, ac yn mwynhau'r gwaith. Rydw i'n treulio gweddill fy amser yn golygu cylchgrawn creadigol Y Stamp – cyhoeddiad y bûm i'n ran o'i sefydlu ryw ddwy flynedd yn ôl, ysgrifennu – er fy mwyn fy hun ac at gomisiynau pobl eraill, a chyfansoddi a pherfformio fel unigolyn ac fel rhan o fandiau a grwpiau.

2. Beth oeddet yn ei astudio pan oeddet yn y coleg?

Roedd fy mhynciau Lefel A yn amrywiol, a dweud y lleiaf. Dewisiais ddau bwnc creadigol – Cymraeg a Chelf, a dau bwnc mwy ymarferol – Daearyddiaeth a Busnes. Roeddwn i wastad yn falch i mi ddewis pedwar pwnc oedd yn cynnig yr amrywiaeth yna i mi – golygai fod fy ngorwelion a'r posibiliadau oedd ar gael i mi wedi i mi adael wastad yn agored iawn.

3. Pa brofiadau cerddorol ges di yn y coleg?

Llun: Dewi Glyn
Roeddwn i newydd ymuno â dau ffrind – Wil Chidley a Ronw Roberts – i ganu mewn gigs lleol ym Mhen Llŷn tua'r un adeg ag yr oeddwn i ar fin cychwyn ar fy mlwyddyn gyntaf yn y Coleg Top. Roedd fy nghyfnod yng Ngholeg Meirion Dwyfor, i'm tyb i, yn hollol allweddol i ddatblygiad y band newydd-anedig yma oherwydd y gynulleidfa barod ar ffurf cyd-fyfyrwyr! Mae gen i restr yn rhywle o'r holl gigs y bu i mi eu gwneud yn ystod y cyfnod, ac mae llawer ohonyn nhw'n nodi penblwydd hwn-a-hwn yn ddeunaw, neu barti hon-a-hon yng Nghlwb Rygbi Pwllheli. Roedd criw o ffrindiau o Ysgol Glan-y-Môr (hogia Botwnnog oeddem ni) wedi cychwyn perfformio fel Y Chwedlau o fewn yr un flwyddyn, ac felly dyma fynd ati i drefnu ein gigs ein hunain a magu profiad a hyder. Wna i byth anghofio canu i ryw ddau gant a hanner o gynulleidfa yng Nghlwb Rygbi Pwllheli, a'r lleoliad ond yn dal cant a hanner – i fod! O ddipyn i beth, daethpwyd i adnabod y band yma fel Patrobas, a aeth drwy sawl newid o ran ei aelodau, a recordio EP ac albym yn y pendraw. Rydan ni'n dal i berfformio'n gyson.

Ar yr un adeg, roeddwn i wedi dod i nabod Gwilym Bowen Rhys, a hwnnw ar erchwyn ei 'droedigaeth' i fyd canu gwerin, fel petae! Hefo fo a Gethin Griffiths, fe fûm i'n perfformio droeon yn ystod fy nghyfnod yn y coleg fel y 'Ciaridyms'. Antur fawr oedd cael mynd i lawr i Aberystwyth i ganu yn y Cŵps am y tro cynta. Daeth hyn yn drefniant rheolaidd, ac rwyf bellach wedi perfformio efo Gwil mewn sawl gwlad!

O fewn y coleg, fy mhrif brofiadau cerddorol oedd y sioeau cerdd blynyddol. Yn fy mlwyddyn gyntaf, mi fûm i'n rhan o'r band ar gyfer y sioe @sioecoleg – sioe a oedd yn cynnwys nifer o glasuron canu roc a phop Cymraeg. Roedd bod yn rhan o gynhyrchiad llwyddiannus o ganlyniad i waith caled criw mawr ohonom yn brofiad gwerthfawr iawn, ac yn fy ail flwyddyn, penderfynais fynd gam ymhellach a bod yn rhan o'r cast. Roedd hyn yn cyfuno'r gorau o ddau fyd gan fod fy nghymeriad yn Chwiban gyda'r gwynt ('Whistle down the wind') – yn gyfleus iawn – hefyd yn canu'r ffidil!

Clawr: Dewi Glyn / Bedwyr ab Iestyn
4. Pa brofiadau cerddorol wyt ti wedi eu cael ers gadael coleg?

Ers gadael y coleg mae Patrobas wedi parhau i gigio a rhyddhau deunydd. Daeth ein EP, Dwyn y Dail allan yng Ngaeaf 2015, a'n halbwm, Lle awn ni nesa'? yn ystod Haf 2017. Rwyf bellach wedi perfformio ar lwyfannau ledled Cymru a thu hwnt hefyd, gyda theithiau i berfformio yn Iwerddon, Llydaw a Gwlad y Basg. Bûm am gyfnod hefyd yn aelod o'r ddeuawd, Gwawn, a fu'n perfformio cerddoriaeth acwstig yn ardal Aberystwyth. Rwyf bellach yn aelod o'r siwpyr-grŵp gwerin arbrofol, Pendevig, sydd yn gobeithio dod â chwistrelliad o egni newydd i'r sîn.

5. Sut brofiad oedd perfformio yn Lorient ac ar lwyfan Canolfan y Mileniwm (Pafiliwn yr Eisteddfod)?

Clawr: Rich Chitty / Sam Humphreys
Un parti mawr oedd wythnos Pendevig o berfformio yn Llydaw a Chymru! Lorient yw gŵyl gerddoriaeth Geltaidd fwyaf y byd, gyda dros 700,000 o bobl o bob cwr yn heidio i ddinas An Oriant am ddeg diwrnod yn ystod Awst. Cefais y fraint o agor y cyngerdd agoriadol gyda pherfformiad o gywydd croeso i'r ŵyl, a chymryd rhan yn yr un cyngerdd fel aelod o Pendevig. Cafodd y band dri gig yn Lorient, a thri gig gwahanol iawn i'w gilydd hefyd! Ar wahan i'r cyngerdd y soniwyd amdano uchod, buom yn perfformio yn noson fawr y Cymry yn yr Espace Marine, pabell enfawr i gynulleidfa o ryw bedair mil; ac mewn noson oedd yn debycach i rêf na dim arall ym Mhafiliwn Cymru – un o nosweithiau gorau fy mywyd. (Doedd y daith yn ôl ar y fferi y diwrnod canlynol ddim yn gymaint o hwyl!) Y wefr fwyaf oedd yr ymateb anhygoel i gerddoriaeth Gymraeg a Chymreig o ran ei iaith a'i natur gan bobl o wledydd eraill nad oedd yn deall gair o'r hyn yr oeddem ni'n ei ddweud. Mi fydd yn aros yn hir iawn yn y cof.

Llun: Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Yna, yn ôl i Gymru fach ac i theatr FAWR Donald Gordon yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Cynulleidfa o dros fil unwaith eto, a phrofiad gwahanol arall. Roedd yna fwy o nerfau o lawer wrth gamu i lwyfan o flaen 'home crowd', ond roedd y profiad yn un cwbl wych – ac yn ryddhad, gan nad oedd gennym ni syniad yn y byd sut ymateb i'w ddisgwyl. Mi faswn i wedi hoffi petai'r cyfan wedi mynd ymlaen ac ymlaen, ond daw i bopeth da ei ddiwedd – am y tro. Y gobaith ydi y bydd Pendevig yn dychwelyd i lwyfannau yn fuan iawn, er gwaetha'r lojistics o ran hel pymtheg o gerddorion anystywallt i'r un man ar yr un pryd!

Yn fwy na dim, serch hyn, mae'n rhaid mai'r ateb un gair i'r cwestiwn ydi, yn syml iawn – chwyslyd!

6. Faint o berfformio wyt ti'n ei wneud fel arall dyddia ma?

Digon i gadw'n brysur! Fel mae'n digwydd, rydw i newydd ddychwelyd o fod yn perfformio am wythnos yn ardaloedd y Gaeltacht yng Ngorllewin Iwerddon, lle mae'r iaith Wyddeleg yn parhau i fod yn gryf fel iaith y gymuned o ddydd i ddydd. Mi gawson ni lot fawr o hwyl, ymateb arbennig – ac mi alla i bellach hawlio'r anrhydedd o fod wedi perfformio yng Nghanolfan Gelfyddydau fwyaf Gorllewinol Ewrop – Áras Éanna ar Inis Oírr! O ran perfformio, mi fydd hi'n gyfnod distawach am y misoedd nesaf nes i brysurdeb y Nadolig gychwyn, ac felly mi rydw i'n edrych ymlaen at gael cymryd hoe a gweithio ar rywfaint o gyfansoddi, gobeithio.

7. Unhryw dips i fyfyrwyr sy'n astudio yn y coleg rwan neu'n meddwl dod yma yn y dyfodol?

Mi faswn i'n dweud fod y profiadau allgyrsiol sydd ar gael cyn bwysiced â'r hyn yr ydach chi'n cael eich asesu arno mewn unrhyw arholiad neu brawf. Pob trip, cynhyrchiad, digwyddiad – ceisiwch gymryd y cynigion yma pan maen nhw ar gael i chi. O brofiad, mae prifysgolion yn chwilio cymaint am y pethau hyn ag y maen nhw am raddau uchel. A chofiwch wneud yr hyn yr ydach chi'n ei fwynhau, uwch pob dim – nid yr hyn y mae pobl eraill yn ei ddisgwyl ohonoch chi ddylai lywio eich penderfyniadau am eich dyfodol a'ch gyrfa. Ro'n i'n mynd i fod yn asiant tir – ond dwi wedi landio yn gwneud bywoliaeth o'r hyn yr ydw i'n ei garu am i mi sylweddoli hynny mewn pryd.

Diolch o galon i Iestyn am ei eiriau doeth. Bydd mwy o gyfweliadau gan gyn-fyfyrwyr ar y blog yn fuan!

Comments

Popular posts from this blog

Sorela