Cyfweld Candelas


 Dyma fand poblogaidd o'r sin roc Gymraeg maent wedi chwarae mewn llawer o gigs a wedi rhyddhau caneuon poblogaidd iawn megis Llwytha'r Gŵn a Brenin Calonnau. Mae eu albwm Llwytha'r Gŵn yn un o fy hoff albymau Cymraeg, felly roedd yn bleser cael eu cyfweld! Dyma sut aeth y cyfweliad:








1. Eglurwch chydig am hanes y band fel sut y ffurfwyd ac yn y blaen?
Dyma ni’n ffurfio tua deg mlynedd yn nol wan!!! Roedd ‘na bedwar ohona ni yn chweched dosbarth Ysgol Y Berwyn hefo’n gilydd ac yn ffrindiau gorau felly dyma ni’n penderfynu cychwyn band. Ar ôl rhyw ddwy flynedd o gigio dyma ni’n derbyn aelod newydd i’r band- sef Lewis o Aberdaron.



2. Pa gig ydach chi wedi mwynhau fwyaf a pam?
Y gig gorau fyse unai lawnsio ein ail a trydydd albym yn Neuadd Buddug, Y Bala. Mae’r neuadd yma wedi bod yn le arbennig i ni erioed gan ei fod mor lleol ac roedd cael lawnsio’r albyms yno yn brofiad mor arbennig a chynnes. Y gig arall sy’n aros yn  y cof ydi’r gig hefo’r gerddorfa yn yr Eisteddfod Genedlaethol nol yn 2106. Does ‘na ddim llawer o fandiau o amgylch y byd yn cael y profiad o chwarae hefo cerddorfa felly roedd hwn eto yn gig fythgofiadwy.



3. Sut broses ydi recordio albwm?
Mae’r broses o recordio albym yn un hir ofnadwy fel arfer! Yn amlwg i ddechrau mae angen cyfansoddi’r caneuon, wedyn eu ymarfer degau o weithiau fel eu bod yn barod i recordio. Yna mae’r broses o recordio pob offeryn yn digwydd cyn gorffen hefo’r canu. Mae hi’n broses hynod o gyffroes fel band ond mae pob dim yn gorfod bob yn berffaith gan fod yr albym yn mynd i fod ar gael i bawb am byth!!



4. Pa gan ydach chi yn hoffi ei pherfformio fwyaf a pam?
Yn bersonol fy hoff gan ydi ‘Llwytha’r Gwn’. Am riw reswm mi gafodd y gan ei chyfansoddi mewn tua chwarter awr heb ddim straen o gwbwl. Wedyn mae cael ei chanu hefo Alys Wiliams jysd yn gweithio mor dda fel ei bod hi’n anodd peidio mwynhau ei chwarae!



5. Unrhyw dips i rhywun sydd yn meddwl dechrau band?
Yr unig gyngor fydde genai ydi cerwch amdani! Allai ddim rhoi cyngor i fand fydd yn gwneud eu siwrnau nhw yn haws, mae’n rhaid i pob band fynd trwy’r daith o chwarae degau o gigs am ddim llawer o bres a dyma yn y pen draw fydd yn eu gwneud yn fand cryfach a gwell.


Diolch am eich cyfraniad!



Comments

Popular posts from this blog

Sorela

Cyfweld Lleucu Gwawr

Emyr Rhys