Posts

Gwobrau Selar

Image
          Penwythnos diwethaf cynhaliwyd ein dathliad ni o ganeuon y sin roc Gymraeg sef Gwobrau! I'r rhai ohonnoch chi sydd ddim yn gyfarwydd gyda Y Selar, wel cylchgrawn misol ydyw sydd yn arbennigo mewn cerddoriaeth Cymraeg. Maent yn hysbysebu gwahanol gigs sydd yn mynd ymlaen (handi iawn) a maent yn ysgrifennu am holl newyddion y bandiau er enghraifft pwy sydd wedi rhyddhau rhywbeth newydd neu wedi ennill gobr. Dyma linc i chi gael darganfod mwy, yn sicr mae'n werth ei ddarllen!   https://selar.cymru/categori/newyddion/        Felly bob blwyddyn mae'r Selar yn cynnal noson wobrwyo er mwyn gwobrwyo y bandiau newydd gorau ond ni sydd yn cael pleidleisio i pwy rydym ni eisiau ennill ac i mi mae hyn yn ei wneud yn lot fwy cyffrous! Blwyddyn yma roedd Gwobrau Selar yn mynd ymlaen dros dwy noson yn lle un, felly mwy o amser i fwynhau! Es i i Aberystwyth ar y nos Sadwrn sef yr ail noson a Gwilym oedd yn cloi Gwobrau. Mi gafodd Gwil...

Star is Born- Hoff Gân

Image
      Dw i yn siwr eich bod wedi clywed am y ffilm boblgaidd Star is Born a ddaeth i'r sgrin fawr ym mis Hydref ond mae pawb yn dal i wrando a canu y caneuon o'r ffilm rwan! Wedi'r cyfan mi wnaeth y gân "Shallow" ennill y wobr "Best Song" yn yr Golden Globes Awards felly mae'n amlwg bod gan y ffilm yma gerddoriaeth da!      Mae'n ffilm bwerus iawn sydd wedi ei selio ar gerddoriaeth oherwydd mae Jackson Maine (Bradley Cooper) sydd yn ganwr enwog ac Ally (Lady Gaga) sydd yn gweithio fel gweinyddes mewn bwyty ond wrth ei bodd yn canu a mae hi'n perfformio mewn bar lleol weithiau. Mae'r ddau yn disgyn mewn cariad drwy gerddoriaeth oherwydd mae Jackson yn dod ar draws Ally tra mae'n perfformio ac yn disgyn mewn cariad gyda hi'n syth oherwydd ei llais arbennig. Yna mae o yn ei hannog i berfformio ei chaneuon  yn fyw a gwneud bywoliaeth fel cantores a cawn weld taith y ddau drwy'r ffilm. Mae'r ddau yn dod yn agos gyda ei g...

Gwilym- Sugno Gola

Image
Llun: Selar.cymru Wel mae mis Chwefror wedi dod eto a felly mae hynny yn golygu un peth i ni fel pobl ifanc sydd yn ymddiddori yn y s î n rôc Gymraeg, GWOBRA! Cynhelir Gwobrau'r Selar yn flynyddol ym mis Chwefror yn Aberystwyth a mae'n blethiad o berfformiadau byw gan holl artistiaid newydd Cymru ond hefyd yn noson sydd yn gwobrwyo'r artisiaid am wahanol lwyddiannau. Y peth sydd yn gwneud gwobrau yn ddiddorol ac yn wahanol yw'r ffaith mai ni sydd yn pleidleisio i pwy ydan ni eisiau i ennill y gwahanol gwobrau er enghraifft albwm newydd orau, y video gorau ac yn y blaen... Mae'n ddigwyddiad unigryw a gwych! Blwyddyn yma Gwilym sydd yn chwarae olaf ar y nos sadwrn felly pa amser gwell i adolygu ei albwm newydd ac yn bwysicach fyth i ddechrau dysgu y geiriau yn barod ar gyfer y noson fawr! Sugno Gola Mae'r albwm yma yn sicr yn un sydd yn llawn caneuon fres a newydd. Mae'r albwm yma yn dod a naws newydd a cyffrous i'r sîn rôc Cymraeg yn fy meddwl ...

Hoff gân Queen

Image
Llun: Stereogum  Rwy'n siwr eich bod wedi clywed am y fflim, Bohemian Rhapsody (mae'n boblogaidd iawn!). Mae'r ffilm wedi ennil dipyn o wobrau a mae brolio mawr wedi bod. Mae hon yn fflim gwerthchweil i unrhywun sydd â diddordeb mewn cerddoriaeth yn enwedig oherwydd ein bod ni ar ganol astudio Roc a Pop fel rhan o ein cwrs AS Cerddoriaeth. Felly es i ati i holi rhai o fy ffrindiau am eu hoff trac gan y band Queen. Alaw Another One Bites The Dust - Heb unrhyw amheuaeth dyma fy hoff gân gan y band oherwydd mae'n gwneud i chi eisiau symud eich traed i'r beat yn syth oherwydd mae'r bas yn ei gwneud yn "catchy" a mae'r riffs ar y gitar a'r clapio yn ei gwneud yn gofiadwy! Erin Don't stop me know - Dyma fy hoff gân oherwydd mae hi'n glasur o gân ac yn un sydd yn aros yn y cof ar ôl gwrando arni unwaith. Rheswm arall dros dewis y gân yma fel fy ffefryn ydi ei bod hi yn gân mor "catchy" ac yn sicr byddwch yn ei chanu yn eich p...

Miskin

Image
  Llun: Kristina Banholzer Mae Miskin yn fand lleol cyffrous â ffurfwyd yn Coleg Meirion Dwyfor. Mae'r band yn tyfu o nerth i nerth a rwyf yn edrych ymlaen i glywed mwy o eu caneuon a eu gweld mewn mwy o ddigwyddiadau i ddod. Diolch yn fawr i'r band am gyfrannu i'r blog drwy gymeryd amser i ateb ein cwestiynau.  1. Eglurwch chydig am hanes y band fel sut y ffurfwyd ac yn y blaen. Dani bellach yn mynd o dan yr enw Miskin, ond yn wreiddiol ffurfwyd Pyroclastig (enw’r band yn wreiddiol) yng Ngholeg Meirion-Dwyfor, Pwllheli. Roeddwn i wastad wedi isio bod mewn band, felly roedd cychwyn coleg yn gyfla perffaith i ffeindio rei erill oedd hefyd awydd bod mewn band. Ar ol dipyn o lwyddiant hefo gigs penderfynom fynd i’r stiwidio i recordio EP gaeth ei ryddhau dan label Rasal (Sain) yn ystod haf 2017. Ymunodd Llew Glyn ar y gitar yn ar ol haf 2017, a fe adawodd Kieran Roberts (allweddell) y band, nath hynny newid dipyn ar swn y band, felly penderfynom gael llechan la...