Posts

Showing posts with the label Adolygiad / Review

Cân i Gymru

Image
S4C.Cymru             Roedd y gystadleuaeth eiconig Cân i Gymru yn dathlu ei phenbwydd yn 50 y flwyddyn yma ac pa ffordd well i ddathlu na i gael chwip o gystadleuaeth dda eto eleni! Rhaid cofio bod Caryl Parry Jones, Bryn Fôn ac Elin Fflur wedi ennill Cân i Gymru a rhain i gyd wedi serenu yn y byd adloniant yng Nghymru. Mae'n saff i ddeud bod y safon wedi bod yn uchel eto eleni.          Rhywbeth sydd bob amser yn dda am y gystadleuaeth hon yw bod digon o amrhywiaeth bob blwyddyn, mae rhywbeth at ddant pawb! Mae caneuon cyflym llawn riffs gitars ond hefyd rhai ysgafnach ac arafach. Mae'n amlwg bod Cân i Gymru yn arddangos y talent sydd genym ni fel y Cymry a mae'n rhywbeth y dylem ni fod yn falch iawn ohonno.          Yn fy marn i roedd yr 8 cân yn haeddu gwobr ond dim ond tri oedd yn cael gwobr felly dw i wedi penderfynu trafod am y 3 cân ddaeth i'r brig sef: 3ydd- Dyfrig Evans- LOL S4C.cymru ...

Prodigy

Image
Yn anffodus wythnos yma cawsom newyddion hynod drist sef bod y canwr Keith Flint wedi lladd ei hun. Roedd yn cael ei adnabod fel blaenwr y grŵp cerddoriaeth electroneg The Priodgy. I fod yn onest doeddwn i ddim wedi dod ar draws y grŵp yma tan i mi glywed am y newyddion ynglyn â Keith Flint. Felly es i ati i ymchwilio ychydig am y band.       Band cerddoriaeth electronig o Braintree, Essex ydi Prodigy a ffurfiwyd yn 1990 gan y chwaraewr bysellfwrdd a'r cyfansoddwr Liam Howlett. Dyma'r band a wnaeth lwyddo mwyaf a'r mwyaf poblogaidd yn y genre "big beat" a "breakbeat" oherwydd eu llwyddiant yn creu cerddoriaeth electronic. Mae'r band wedi cael teitlau gwahanol yn gwobrwyo eu llwyddiant fel band er enghraifft  "the premiere dance act for the alternative masses"  a  "the Godfathers of Rave".         Ar ôl ymchwilio dipyn yn amlwg roedd rhaid i mi fynd ati i wrando ar dipyn o'u caneuon. Tra roeddwn i yn darllen i fyny am ban...

Calan- Solmon

Image
Dydd Gwyl Dewi Hapus! Pa ffordd well i ddathlu na i wrando ar band hudolus o Gymru sydd yn chwarae o gwmpas y byd ond yn rhoi Cymru ar y map! Calan! Band sydd yn cynnwys 5 o gerddorion Cymraeg ifanc a thalentog yw Calan sydd yn rhoi bywyd newydd a bywiog i ganeuon traddodiadol Cymru. Mae'r band yn gwneud hyn drwy eu harmoniau blodeuog ac alawon gwerth tapio eich traed! Maent yn perfformio reels a jigs traddodiadol sydd yn boblogaidd iawn ond yn eu chwarae yn gyflym ac yn gyffrous cyn trawsnewid i rywbeth hudolus a prydferth! calan-band.com   Solomon ydi albwm diweddaraf Calan ond ar ôl i'r band ryddhau eu albwm cyntaf sef Bling yn 2008 cafwyd adolygiad 4 seren gan y gwrandawyr. Ers hynny mae'r band wedi tyfu o nerth i nerth oherwydd bellach mae'r 5 yn chwarae yn fyw i gynulleidfaoedd mawr mewn cyngherddau ac amryw wyliau dros y byd er enghraifft: Gwyl Gaergrawnt  Celtic Connections Gŵyl Werin Amwythig  Gŵyl Werin Moseley  Gwyl Werin Derby  Gwy...

Star is Born- Hoff Gân

Image
      Dw i yn siwr eich bod wedi clywed am y ffilm boblgaidd Star is Born a ddaeth i'r sgrin fawr ym mis Hydref ond mae pawb yn dal i wrando a canu y caneuon o'r ffilm rwan! Wedi'r cyfan mi wnaeth y gân "Shallow" ennill y wobr "Best Song" yn yr Golden Globes Awards felly mae'n amlwg bod gan y ffilm yma gerddoriaeth da!      Mae'n ffilm bwerus iawn sydd wedi ei selio ar gerddoriaeth oherwydd mae Jackson Maine (Bradley Cooper) sydd yn ganwr enwog ac Ally (Lady Gaga) sydd yn gweithio fel gweinyddes mewn bwyty ond wrth ei bodd yn canu a mae hi'n perfformio mewn bar lleol weithiau. Mae'r ddau yn disgyn mewn cariad drwy gerddoriaeth oherwydd mae Jackson yn dod ar draws Ally tra mae'n perfformio ac yn disgyn mewn cariad gyda hi'n syth oherwydd ei llais arbennig. Yna mae o yn ei hannog i berfformio ei chaneuon  yn fyw a gwneud bywoliaeth fel cantores a cawn weld taith y ddau drwy'r ffilm. Mae'r ddau yn dod yn agos gyda ei g...

Gwilym- Sugno Gola

Image
Llun: Selar.cymru Wel mae mis Chwefror wedi dod eto a felly mae hynny yn golygu un peth i ni fel pobl ifanc sydd yn ymddiddori yn y s î n rôc Gymraeg, GWOBRA! Cynhelir Gwobrau'r Selar yn flynyddol ym mis Chwefror yn Aberystwyth a mae'n blethiad o berfformiadau byw gan holl artistiaid newydd Cymru ond hefyd yn noson sydd yn gwobrwyo'r artisiaid am wahanol lwyddiannau. Y peth sydd yn gwneud gwobrau yn ddiddorol ac yn wahanol yw'r ffaith mai ni sydd yn pleidleisio i pwy ydan ni eisiau i ennill y gwahanol gwobrau er enghraifft albwm newydd orau, y video gorau ac yn y blaen... Mae'n ddigwyddiad unigryw a gwych! Blwyddyn yma Gwilym sydd yn chwarae olaf ar y nos sadwrn felly pa amser gwell i adolygu ei albwm newydd ac yn bwysicach fyth i ddechrau dysgu y geiriau yn barod ar gyfer y noson fawr! Sugno Gola Mae'r albwm yma yn sicr yn un sydd yn llawn caneuon fres a newydd. Mae'r albwm yma yn dod a naws newydd a cyffrous i'r sîn rôc Cymraeg yn fy meddwl ...

Hoff gân Queen

Image
Llun: Stereogum  Rwy'n siwr eich bod wedi clywed am y fflim, Bohemian Rhapsody (mae'n boblogaidd iawn!). Mae'r ffilm wedi ennil dipyn o wobrau a mae brolio mawr wedi bod. Mae hon yn fflim gwerthchweil i unrhywun sydd â diddordeb mewn cerddoriaeth yn enwedig oherwydd ein bod ni ar ganol astudio Roc a Pop fel rhan o ein cwrs AS Cerddoriaeth. Felly es i ati i holi rhai o fy ffrindiau am eu hoff trac gan y band Queen. Alaw Another One Bites The Dust - Heb unrhyw amheuaeth dyma fy hoff gân gan y band oherwydd mae'n gwneud i chi eisiau symud eich traed i'r beat yn syth oherwydd mae'r bas yn ei gwneud yn "catchy" a mae'r riffs ar y gitar a'r clapio yn ei gwneud yn gofiadwy! Erin Don't stop me know - Dyma fy hoff gân oherwydd mae hi'n glasur o gân ac yn un sydd yn aros yn y cof ar ôl gwrando arni unwaith. Rheswm arall dros dewis y gân yma fel fy ffefryn ydi ei bod hi yn gân mor "catchy" ac yn sicr byddwch yn ei chanu yn eich p...

Sgt. Pepper’s Lonely Hearts Club Band (Beatles) (Adolygiad / Review)

Image
Ar gyfer uned Roc a Phop AS, rydym wedi dechrau drwy edrych ar Sgt. Pepper’s Lonely Hearts Club Band  a'r ddau drac Strawberry Fields Forever a Penny Lane  gan y Beatles. Dyma hoff draciau’r myfyrwyr a fi oddi ar yr albwm. Llun Clawr Mali: Fy hoff drac allan o’r albwm Sgt. Pepper’s Lonely Hearts Club Band yw With a Little Help From My Friends . Rwyf yn hoff o’r gân yma gan fy mod yn hoffi’r cyfuniad yma o offerynnau, cit drymiau, piano a gitâr. Rwyf hefyd yn meddwl gall llawer o bobl uniaethu gyda’r geiriau ac fellyn yn gwneud i’r trac fod yn fwy cofiadwy. Mae’r cordiau piano staccato yn gweithio’n dda gyda’r rhythm trawsacennog sy’n cael ei chwarae ar y cit drymiau sy’n wahanol i ganeuon eraill. Gronw: Penny Lane yw fy hoff drac i o’r albwm oherwydd ei fod yn arddull sioe gerdd. Rwyf yn hoff o’r bas disgynnol a’r cordiau bloc sy’n apelgar iawn. Rwyf yn hoff iawn o’r gohiriannau yn y gân ac mae hyn yn eich hudo i wrando mwy. Mae’r stori tu ôl i’r gân yn ei gwne...

Blur - Blur (Adolygiad / Review)

Image
This blog is meant as a place for students to contribute and share work and ideas and this is the first installment! Iona is a student in the second year and is studying Art and Design as well as the Welsh Bac. This is her review: Blur - Blur I'd like to review my favourite album at the moment which is the band Blur’s album Blur. This album is their fifth released, it came out back in February 1997 and features a total of 14 songs, including 4 of their best singles. Britpop as a genre had been very unsuccessful in the US until their single Song 2 dropped, that led to this album being the band’s best in the US. This album was quite a stylistic change from Blur’s usual heavier music, but the risk paid off when this became one of their most successful albums of all time. This album was more influenced by American indie pop, due to guitarist Graham Cox taking more responsibility for the band’s musical direction. I personally love this album for many reasons, mainly being be...

Mellt - Mae'n Hawdd Pan Ti'n Ifanc (Adolygiad / Review)

Image
Bob blwyddyn ers 2013 mae gwobr Albwm Gymraeg y Flwyddyn yn cael ei rhoi yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Felly ar ddechra gwylia ha dwi'n trio gwrando ar rhan fwya o’r albymau sydd ar y rhestr fer, a dewis fy ffefryn. Waeth i fi fod yn onest ddim, nes i anghofio bob dim am y peth leni. Dwi'm yn meddwl i fi glywed dim byd i'w wneud â'r wobr tan i fi gofio amdani ganol Awst. P'run bynnag, gan mod i gymaint ar ei hôl hi leni dwi di mynd yn syth i wrando ar yr albwm nath ennill - Mae'n Hawdd Pan Ti'n Ifanc gan Mellt. Llun o Facebook Mellt Does na ddim amheuaeth bod y band yma’n gwybod sut i drin geiriau ac er sgen i ddim llawer o ddiddordeb mewn geiria fel arfer dyma un o fy hoff betha i am yr albwm yma. Mae’r geiria mor glyfar, mor fachog, mor fodern, yn gweddu’n berffaith fel cyferbyniad i’r gerddoriaeth fasa’n ffitio’n hollol iawn yn y 00a’ a chynt. Dydy hynny ddim i ddweud nad ydy'r gerddoriaeth yn dda hefyd. Mae cordiau cyntaf trawiadol yr alb...