Mellt - Mae'n Hawdd Pan Ti'n Ifanc (Adolygiad / Review)

Bob blwyddyn ers 2013 mae gwobr Albwm Gymraeg y Flwyddyn yn cael ei rhoi yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Felly ar ddechra gwylia ha dwi'n trio gwrando ar rhan fwya o’r albymau sydd ar y rhestr fer, a dewis fy ffefryn. Waeth i fi fod yn onest ddim, nes i anghofio bob dim am y peth leni. Dwi'm yn meddwl i fi glywed dim byd i'w wneud â'r wobr tan i fi gofio amdani ganol Awst.

P'run bynnag, gan mod i gymaint ar ei hôl hi leni dwi di mynd yn syth i wrando ar yr albwm nath ennill - Mae'n Hawdd Pan Ti'n Ifanc gan Mellt.

Llun o Facebook Mellt
Does na ddim amheuaeth bod y band yma’n gwybod sut i drin geiriau ac er sgen i ddim llawer o ddiddordeb mewn geiria fel arfer dyma un o fy hoff betha i am yr albwm yma. Mae’r geiria mor glyfar, mor fachog, mor fodern, yn gweddu’n berffaith fel cyferbyniad i’r gerddoriaeth fasa’n ffitio’n hollol iawn yn y 00a’ a chynt.

Dydy hynny ddim i ddweud nad ydy'r gerddoriaeth yn dda hefyd. Mae cordiau cyntaf trawiadol yr albwm yn mynd a fi’n syth yn ôl i'r hen dŷ dinji, tywyll, damp, oer, afiach o'n i'n byw ynddo fo yn fy ail flwyddyn i'n coleg. Blwyddyn pan o'n i'n gwrando ar We Are Scientists, Artic Monkeys a Fratellis. Ac eto, rhywsut mae'r albwm yma'n fwy cyflawn na lot o'r gerddoriaeth na o'n i'n gwrando arno fo flynyddoedd nôl. Nid band gitâr cyffredin mo Mellt. Mae nhw di llwyddo i gwmpasu petha oedd yn dda am indi y 00a’ efo geiriau a rhythma bachog a chyfoes.

Dwy gân yn unig ar yr albwn sydd dros 3 munud, dim cwyno ydw i, edmygu. Mae pob cân wedi ei llunio’n gelfydd ac yn ofalus. Bob tro dwi’n dechrau meddwl, o, hon di’r filler ar yr albwm, mae’r gân yn cicio mewn i gytgan, newid mewn cywair neu fachiad clyfar yn y geiriau sy’n fy nhynnu i nôl mewn eto.

Os oes gen ti hanner awr i'w sbario, dwi'n argymell yn fawr i ti wrando ar Mae'n Hawdd Pan Ti'n Ifanc.

(Gwenno - tiwtor cerdd)

Comments

Popular posts from this blog

Sorela

Cyfweld Lleucu Gwawr

Emyr Rhys