Prodigy
Yn anffodus wythnos yma cawsom newyddion hynod drist sef bod y canwr Keith Flint wedi lladd ei hun. Roedd yn cael ei adnabod fel blaenwr y grŵp cerddoriaeth electroneg The Priodgy. I fod yn onest doeddwn i ddim wedi dod ar draws y grŵp yma tan i mi glywed am y newyddion ynglyn â Keith Flint. Felly es i ati i ymchwilio ychydig am y band.
Band cerddoriaeth electronig o Braintree, Essex ydi Prodigy a ffurfiwyd yn 1990 gan y chwaraewr bysellfwrdd a'r cyfansoddwr Liam Howlett. Dyma'r band a wnaeth lwyddo mwyaf a'r mwyaf poblogaidd yn y genre "big beat" a "breakbeat" oherwydd eu llwyddiant yn creu cerddoriaeth electronic. Mae'r band wedi cael teitlau gwahanol yn gwobrwyo eu llwyddiant fel band er enghraifft "the premiere dance act for the alternative masses" a "the Godfathers of Rave".
Ar ôl ymchwilio dipyn yn amlwg roedd rhaid i mi fynd ati i wrando ar dipyn o'u caneuon. Tra roeddwn i yn darllen i fyny am band ddois i ar draws mai "Firestarter" a "Breathe" oedd eu caneuon mwyaf poblogaidd ( y ddwy wedi eu rhyddhau yn 1996) felly es i ati i wrando!
Ar ôl gwrando ar y ddwy, fy ffefryn oedd Breathe oherwydd i fod yn onest roedd hi'n hollol wahanol i be roeddwn i wedi glywed o'r blaen. Fedrai ddeall yn union pam eu bod wedi llwyddo gymaint yn y byd bandiau electroneg oherwydd mae'r gân yma yn defnyddio nifer o wahanol dechnegau electronig e.e y techneg recordio lleisiau a'r cit drymiau TGCh. Os dydach chi heb wrando ar ganeuon y band yma o'r blaen wel dwi yn argymell i chi wrando ar y oleiaf un o'r caneuon yma! Dyma linc i'r gân Breathe! Gobeithio wnewch chi fwynhau gwrando arni!
https://www.youtube.com/watch?v=rmHDhAohJlQ&list=RDEMP_M3S90ksn-ASgqyXkeYGg&index=2

Comments
Post a Comment