Calan- Solmon

Dydd Gwyl Dewi Hapus! Pa ffordd well i ddathlu na i wrando ar band hudolus o Gymru sydd yn chwarae o gwmpas y byd ond yn rhoi Cymru ar y map! Calan! Band sydd yn cynnwys 5 o gerddorion Cymraeg ifanc a thalentog yw Calan sydd yn rhoi bywyd newydd a bywiog i ganeuon traddodiadol Cymru. Mae'r band yn gwneud hyn drwy eu harmoniau blodeuog ac alawon gwerth tapio eich traed! Maent yn perfformio reels a jigs traddodiadol sydd yn boblogaidd iawn ond yn eu chwarae yn gyflym ac yn gyffrous cyn trawsnewid i rywbeth hudolus a prydferth!

calan-band.com 
Solomon ydi albwm diweddaraf Calan ond ar ôl i'r band ryddhau eu albwm cyntaf sef Bling yn 2008 cafwyd adolygiad 4 seren gan y gwrandawyr. Ers hynny mae'r band wedi tyfu o nerth i nerth oherwydd bellach mae'r 5 yn chwarae yn fyw i gynulleidfaoedd mawr mewn cyngherddau ac amryw wyliau dros y byd er enghraifft:

  • Gwyl Gaergrawnt 
  • Celtic Connections
  • Gŵyl Werin Amwythig 
  • Gŵyl Werin Moseley 
  • Gwyl Werin Derby 
  • Gwyl Werin Bromyard, 
  • Gwyl Werin Whitby 
  • Taith o gwmaps Yr Eidal, Awstria a Gwlad Belg 
  • Gwyl Interceltique de Lorient, Llydaw, lle gwnaeth y band dderbyn y wobr am y grŵp gorau.
Folk Radio UK
Solomon

Ers i mi brynu yr albwm yma ar eu taith rhyddhau Solomon yn Pontio Bangor dydw i ddim wedi diflasu o gwbl ar y caneuon, os rhywbeth dw i'n dod i werthfawrogi y caneuon fwy y mwy rwy'n gwrando arnyn nhw. Mae gymaint o amrywiaeth yn yr albwm o ganeoun sydyn sydd yn eich cael i symud eich traed i rhai arafach llawn emsoiwn ond mae un yn siwr o daro tant gyda bob un ohonom ni oherwydd eu trefnianau hyfryd! Mae'r offerynnau yn arbennig wrth adeiladu'r gwead ar tensiwn i'r darnau. 
   Wedi i mi fod yn pendronni am amser hir yn ceisio meddwl pa un oedd fy ffefryn dw i yn meddwl mai yr un sydd yn mynd a hi ydi Kân oherwydd mae hi wir yn hollol wahanol i be fyddech chi yn ddisgwyl ei glywed mewn cân traddodiadol gwerin. Yn amlwg mae'r elfennau hyfryd gwerin dal yn y gân ond mae'r hud mae nhw wedi ei ddefnyddio fel band wedi dod a naws newydd i'r ffidlau, y delyn, gitar a'r accordion. Mae'r gytgan yn catchy a mae hi'n gân sydd yn llawn hwyl ac yn swnio'n chwaraeus. Fedrai ddim stopio gwrando arni! Byddwn i wir yn argymell i chi wrando ar yr albwm yma, wnewch chi ddim difaru! 

Comments

Popular posts from this blog

Sorela

Cyfweld Lleucu Gwawr

Emyr Rhys