Sgt. Pepper’s Lonely Hearts Club Band (Beatles) (Adolygiad / Review)

Ar gyfer uned Roc a Phop AS, rydym wedi dechrau drwy edrych ar Sgt. Pepper’s Lonely Hearts Club Band a'r ddau drac Strawberry Fields Forever a Penny Lane gan y Beatles. Dyma hoff draciau’r myfyrwyr a fi oddi ar yr albwm.

Llun Clawr

Mali:
Fy hoff drac allan o’r albwm Sgt. Pepper’s Lonely Hearts Club Band yw With a Little Help From My Friends. Rwyf yn hoff o’r gân yma gan fy mod yn hoffi’r cyfuniad yma o offerynnau, cit drymiau, piano a gitâr. Rwyf hefyd yn meddwl gall llawer o bobl uniaethu gyda’r geiriau ac fellyn yn gwneud i’r trac fod yn fwy cofiadwy. Mae’r cordiau piano staccato yn gweithio’n dda gyda’r rhythm trawsacennog sy’n cael ei chwarae ar y cit drymiau sy’n wahanol i ganeuon eraill.

Gronw:
Penny Lane yw fy hoff drac i o’r albwm oherwydd ei fod yn arddull sioe gerdd. Rwyf yn hoff o’r bas disgynnol a’r cordiau bloc sy’n apelgar iawn. Rwyf yn hoff iawn o’r gohiriannau yn y gân ac mae hyn yn eich hudo i wrando mwy. Mae’r stori tu ôl i’r gân yn ei gwneud hi’n fwy diddorol hefyd; yma yn stryd Penny Lane bu i John a Paul gwrdd a dechrau cyfansoddi caneuon. Dwi’n hoff iawn o’r newid cywair mewn adrannau gwahanol, yn enwedig y gytgan gofiadwy. Mae’r cyfeiliant piano yn wych ac mae’n tynnu fy sylw’n syth fel chwaraewr piano.

Alaw:
Fy hoff drac i o’r albwm yw when I’m Sixty Four. Gwnaeth y gân yma sefyll allan yn syth i mi oherwydd bod naws ysgafn a bywiog iddi. Mae’r dechrau â’r defnydd o guriadau crosied yn codi eich calon. Hefyd mae’r geiriau yn cyfleu stori ddiddorol o syniadau Paul McCartney o fod yn 64 mlwydd oed. Mae’r rhythm dotiog yn gweddu’n dda i’r geiriau ac i naws y gân. Mae’r gân yn berffaith i wrando arni er mwyn ymlacio a os ydych eisiau gwrando ar rhywbeth ysgafn a hwyliog!

Gwenno:
Lle mae dechrau gyda dewis hoff drac oddi ar yr albwm yma?! Mae bron pob un yn arloesol yn ei ffordd ei hun ac yn dangos sut oedd y Beatles yn arbrofi gydag amrywiol arddulliau cerddorol a thechnegau recordio. Ac er mod i wrth fy modd efo sain y Cyrn Ffrengig, y chwerthin, clapio a'r canu mewn harmoniau yn y gytgan ar drac agoriadol yr albwm fy hoff drac i ydy She's Leaving Home. Cerddoriaeth werin ydy be dwi'n ei hoffi yn y bon, ac mae naws werinol, moddol, y gan yma'n torri nghalon bob tro dwi'n gwrando arni. Dwi hefyd wrth fy modd efo sut mae Paul McCartney wedi defnyddio'r lleisiau gwahanol i gyfleu teimladau'r cymeriadau yn y stori, ac sut mae'r rhain yn cael eu defnyddio wedi eu cyd-blethu efo'i gilydd.

Beth ydy dy hoff drac di oddi ar Sgt. Pepper? Gad nodyn yn y blwch sylwadau.
What's your favorite track off Sgt. Pepper? Leave a note in the comments. 

Comments

Popular posts from this blog

Sorela

Cyfweld Lleucu Gwawr

Emyr Rhys