Star is Born- Hoff Gân
Mae'n ffilm bwerus iawn sydd wedi ei selio ar gerddoriaeth oherwydd mae Jackson Maine (Bradley Cooper) sydd yn ganwr enwog ac Ally (Lady Gaga) sydd yn gweithio fel gweinyddes mewn bwyty ond wrth ei bodd yn canu a mae hi'n perfformio mewn bar lleol weithiau. Mae'r ddau yn disgyn mewn cariad drwy gerddoriaeth oherwydd mae Jackson yn dod ar draws Ally tra mae'n perfformio ac yn disgyn mewn cariad gyda hi'n syth oherwydd ei llais arbennig. Yna mae o yn ei hannog i berfformio ei chaneuon yn fyw a gwneud bywoliaeth fel cantores a cawn weld taith y ddau drwy'r ffilm. Mae'r ddau yn dod yn agos gyda ei gilydd ac yn rhannu eu profiadau ac eu teimladau drwy gerddoriaeth. Yn sicr mae'r cerddoriaeth yn allweddol yn y ffilm yma. Nai ddim dweud mwy rhag ofn i mi sboelio y ffilm i chi ond os nad ydych chi wedi ei weld yn barod, mae'n rhaid i chi!
Felly es i ati i ofyn cwestiynau am pa gân oedd eich hoff un chi o'r albwm.
Y gân fwyaf poblogaidd oedd I'll never love again oherwydd ei bod yn llawn emosiwn a theimlad a oherwydd hon yw uchelbwynt y ffilm.
Yr ail gân fwyaf poblogaidd oedd Shallow oherwydd roedd llawer yn hoffi llais y gantores a'r ystyr tu ol i'r geiriau.
Y trydydd gân fwyaf poblogaidd oedd Black Eyes oherwydd y naws roc iddi a gan ei bod yn sefyll allan o'r gweddill.
Nes i ofyn hefyd os oedd cerddoriaeth mewn ffilm yn bwysig a atebodd pawb ei fod yn bwysig oherwyd gwahanol resymau er enghraifft mae'n creu awyrgylch, gwneud y fflim yn fwy gofiadwy a cyfleu emosiynau fel trist a hapus.
Diolch i bawb wnaeth gymeryd rhan yn ateb y holiadur!
Comments
Post a Comment