Gwilym- Sugno Gola

Llun: Selar.cymru
Wel mae mis Chwefror wedi dod eto a felly mae hynny yn golygu un peth i ni fel pobl ifanc sydd yn ymddiddori yn y sîn rôc Gymraeg, GWOBRA! Cynhelir Gwobrau'r Selar yn flynyddol ym mis Chwefror yn Aberystwyth a mae'n blethiad o berfformiadau byw gan holl artistiaid newydd Cymru ond hefyd yn noson sydd yn gwobrwyo'r artisiaid am wahanol lwyddiannau. Y peth sydd yn gwneud gwobrau yn ddiddorol ac yn wahanol yw'r ffaith mai ni sydd yn pleidleisio i pwy ydan ni eisiau i ennill y gwahanol gwobrau er enghraifft albwm newydd orau, y video gorau ac yn y blaen... Mae'n ddigwyddiad unigryw a gwych!
Blwyddyn yma Gwilym sydd yn chwarae olaf ar y nos sadwrn felly pa amser gwell i adolygu ei albwm newydd ac yn bwysicach fyth i ddechrau dysgu y geiriau yn barod ar gyfer y noson fawr!

Sugno Gola
Mae'r albwm yma yn sicr yn un sydd yn llawn caneuon fres a newydd. Mae'r albwm yma yn dod a naws newydd a cyffrous i'r sîn rôc Cymraeg yn fy meddwl i oherwydd mae Gwilym yn defnyddio'r offerynnau mewn ffordd newydd gan ddod a maracs a defnyddio riffs bachog ar y gitar ond mae'r holl ganeuon yn ysgafn a bywiog. Fel arfer gyda'r holl riffs gitar byddwch yn disgwyl i'r caneuon fod fel rôc trwm ond mae Gwilym yn newid y gitars i fod yn rhywbeth ysgafn.
 
Hwn yw'r albwm i'w gael er mwyn gwrando arno yn y car dw i meddwl oherwydd mae'r holl ganeuon mor catchy a mae'n nhw i gyd yn hapus does dim byd trwm amdanynt maent yn llawn hwyl.  Mae'r albwm yma yn berffaith ar gyfer codi eich calon ar ôl diwrnod caled oherwydd dw i gwybod rydym ni gyd yn cael dyddiau fel hynny yn anffodus ond dw i bron yn sicr os wnewch chi roi y albwm yma yn uchel mi fyddwch yn teimlo llawer gwell yn syth ac yn dawnsio i'r motifs bachog na.

Fy hoff gan i o'r albwm yw Cysgod oherwydd nid yn unig mae tempo'r gan a'r offerynnau yn codi eich calon ond mae'r geiriau hefyd er enghraifft yn enwedig yn y linell "ma fory ddiwrnod newydd fyd, i newid i newid byd i ddangos be dani'n ei neud" a dwi teimlo mae'r gan yn rhoi gobaith ac yn codi calon syth. Felly ewch i wrando arni! Newch chi ddim difaru!

Felly os oes gennych chi rhyw hanner awr yn sbar ewch ati i wrando ar y albwm yma a dw i bron yn sicr fyddwch chi methu stopio gwrando arno wedyn!

Comments

Popular posts from this blog

Sorela

Cyfweld Lleucu Gwawr

Emyr Rhys