Hoff gân Queen

Llun: Stereogum 
Rwy'n siwr eich bod wedi clywed am y fflim, Bohemian Rhapsody (mae'n boblogaidd iawn!). Mae'r ffilm wedi ennil dipyn o wobrau a mae brolio mawr wedi bod. Mae hon yn fflim gwerthchweil i unrhywun sydd â diddordeb mewn cerddoriaeth yn enwedig oherwydd ein bod ni ar ganol astudio Roc a Pop fel rhan o ein cwrs AS Cerddoriaeth. Felly es i ati i holi rhai o fy ffrindiau am eu hoff trac gan y band Queen.

Alaw
Another One Bites The Dust- Heb unrhyw amheuaeth dyma fy hoff gân gan y band oherwydd mae'n gwneud i chi eisiau symud eich traed i'r beat yn syth oherwydd mae'r bas yn ei gwneud yn "catchy" a mae'r riffs ar y gitar a'r clapio yn ei gwneud yn gofiadwy!


Erin
Don't stop me know- Dyma fy hoff gân oherwydd mae hi'n glasur o gân ac yn un sydd yn aros yn y cof ar ôl gwrando arni unwaith. Rheswm arall dros dewis y gân yma fel fy ffefryn ydi ei bod hi yn gân mor "catchy" ac yn sicr byddwch yn ei chanu yn eich pen drwy'r dydd wedyn!


Elan
Bohemian Rhapsody- Dyma fy nghân gora' i oherwydd mae gymaint o ailadrodd ynddi a felly yn hawdd i gyd ganu gyda ffrindiau a mae hi'n "catchy"!

Mia
Bohemian Rhapsody- Dyma fy ffefryn i oherwydd bod hi'n gân unigryw ond yn sicr yn glasur! Mae'r holl offerynnau yn dda ynddi ac yn ei gwneud yn gofiadwy i mi. Mae hi'n diwn sydd yn aros yn y cof am hir.

Comments

Popular posts from this blog

Blur - Blur (Adolygiad / Review)

Gŵyl Gerdd Dant Blaenau Ffestiniog a'r Fro 2018