Cân i Gymru

S4C.Cymru 
          Roedd y gystadleuaeth eiconig Cân i Gymru yn dathlu ei phenbwydd yn 50 y flwyddyn yma ac pa ffordd well i ddathlu na i gael chwip o gystadleuaeth dda eto eleni! Rhaid cofio bod Caryl Parry Jones, Bryn Fôn ac Elin Fflur wedi ennill Cân i Gymru a rhain i gyd wedi serenu yn y byd adloniant yng Nghymru. Mae'n saff i ddeud bod y safon wedi bod yn uchel eto eleni.
         Rhywbeth sydd bob amser yn dda am y gystadleuaeth hon yw bod digon o amrhywiaeth bob blwyddyn, mae rhywbeth at ddant pawb! Mae caneuon cyflym llawn riffs gitars ond hefyd rhai ysgafnach ac arafach. Mae'n amlwg bod Cân i Gymru yn arddangos y talent sydd genym ni fel y Cymry a mae'n rhywbeth y dylem ni fod yn falch iawn ohonno.
         Yn fy marn i roedd yr 8 cân yn haeddu gwobr ond dim ond tri oedd yn cael gwobr felly dw i wedi penderfynu trafod am y 3 cân ddaeth i'r brig sef:

3ydd- Dyfrig Evans- LOL

S4C.cymru
        Mae'r gân yma yn un hapus sydd yn codi eich calon yn syth wrth wrando arni. Mae'r geiriau yn rhai positif oherwydd neges y gân ydi pan mae pethau yn cael chi i lawr mae'n rhaid chwerthin. Mae naws modern i'r darn yma oherwydd yr offeryniaeth er enghraifft y riffs ar y gitar drydan a mae'r maracas yn y cefndir yn rhoi naws fres iddi. Mae'r piano yn chwarae cordiau sydd yn cynnal y gân mewn ffordd cyffrous. Yn bendant mae hon yn gân byddaf yn gwrando arni eto!

2il- Rhydian Meilir- Gewn Ni Weld Sut Eith Hi

S4C.cymru
       Mae'r gân yma wedi sefyll allan i mi oherwydd ei bod hi'n ddeuawd, a mae'n rhaid cyfadde mae'n gweithio'n dda iawn! Dw i yn hoffi'r gân yma oherwydd ei bod yn "catchy" ac oherwydd y motifs bachog ar y gitar. Mae dipyn o weadau gwahanol i'r gân sydd yn gwneud yn y gân yn fwy diddorol er enghraifft mae'r gwead yn deneuach pan mae'r ferch yn canu unawd ond yna mae'r bachgen yn ymuno sydd yn rhoi dynameg gwahanol i'r gân. Mae'r gân yma yn aros yn y cof am dipyn ar ôl gwrando arni.

1af- Elidyr Glyn- Fel Hyn 'da Ni Fod

S4C.cymru
      Dw i yn teimlo bod y gân yma yn taro tant gyda bob un ohonom ni mewn ffyrdd gwahanol oherwydd mae'n gân yn llawn teimlad. Mae'r gitar acwstig yn cyfeilio'n ysgafn sydd yn rhoi teimlad fwy ysgafn i'r gân sydd yn gwneud y gân yn hawdd i wrando arni. Mae naws reit werinol i'r gân yn enwedig pan mae'r ffidl yn dod i fewn yn y cefndir. Yn sicr byddaf i yn gwrando ar hon dipyn eto a dw i'n argymell i chi wrando arni!

Llondgyfarchiadau i'r 8! Da iawn chi! Edrych ymlaen i'r gystadleuaeth nesaf yn barod!

Comments

Popular posts from this blog

Sorela

Cyfweld Lleucu Gwawr

Emyr Rhys