Gwilym Bowen Rhys

https://www.gwilymbowenrhys.com/hanes-bio Mae Gwilym Bowen Rhys yn wyneb cyfarwydd i ni yng Nghymru a hynny drwy'r sin roc Gymraeg gyda'r band Y Bandana ond hefyd yn ddiweddar yn y byd canu gwerin ac alawon traddodiadol o Gymru. Yn ddiweddar mae Gwilym wedi bod yn canolbwyntio ar yr alawon traddodiadol o Gymru yn hytrach na'r cerddoriaeth roc oherwydd yn anffodus bu i'r band Y Bandana orffen yn 2016 ond yn yr un flwyddyn rhyddhawyd ei albwm unigol gyntaf sef "O Groth y Ddaear". O Groth y Ddaear Y tro cyntaf i mi glywed y caneuon o'r albwm yma oedd yn lansiad yr albwm yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy 2016 yn y Tŷ Gwerin. Rhaid cyfadde' mi wnes i fwynhau'r caneuon yn syth oherwydd eu bod yn wahanol i'r hyn roeddwn i wedi bod yn gwrando arnynt o'r blaen oherwydd doeddwn i ddim wedi gwrando llawer ar ganeuon gwerin cynt. Felly roedd yr albwm yma yn rhywbeth newydd i mi a rhaid i mi gyfadde' ers i mi ddod ar draws yr albwm ...