Gwilym Bowen Rhys

https://www.gwilymbowenrhys.com/hanes-bio
Mae Gwilym Bowen Rhys yn wyneb cyfarwydd i ni yng Nghymru a hynny drwy'r sin roc Gymraeg gyda'r band Y Bandana ond hefyd yn ddiweddar yn y byd canu gwerin ac alawon traddodiadol o Gymru.
Yn ddiweddar mae Gwilym wedi bod yn canolbwyntio ar yr alawon traddodiadol o Gymru yn hytrach na'r cerddoriaeth roc oherwydd yn anffodus bu i'r band Y Bandana orffen yn 2016 ond yn yr un flwyddyn rhyddhawyd ei albwm unigol gyntaf sef "O Groth y Ddaear".

O Groth y Ddaear 

Y tro cyntaf i mi glywed y caneuon o'r albwm yma oedd yn lansiad yr albwm yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy 2016 yn y Tŷ Gwerin. Rhaid cyfadde' mi wnes i fwynhau'r caneuon yn syth oherwydd eu bod yn wahanol i'r hyn roeddwn i wedi bod yn gwrando arnynt o'r blaen oherwydd doeddwn i ddim wedi gwrando llawer ar ganeuon gwerin cynt. Felly roedd yr albwm yma yn rhywbeth newydd i mi a rhaid i mi gyfadde' ers i mi ddod ar draws yr albwm yma dw i wedi dod i fwynhau cerddoriaeth gwerin a gwrando dipyn mwy ar ganeuon gwerin. 

Byddwn i yn argymell i unrhyw un ohonnoch chi wrando ar y albwm yma oherwydd dw i'n teimlo bod y caneuon yn rhai sydd yn eich helpu i ymlacio oherwydd y teimlad ysgafn sydd yn y darnau. Fy hoff gan i o'r albwm ydi Cwch Dafydd 'Rabar oherwydd hon ydi'r gân fyddai yn mynd ati i wrando os ydw i eisiau ymlacio yn lle gwrando ar gerddoriaeth roc drwy'r amser. Mae'r gân yma yn sefyll allan i mi hefyd oherwydd ei bod yn alaw werin felly does dim cerddoriaeth yn y cefndir ond mae hyn yn dod â'r lleisiau yn gliriach. Dw i yn teimlo bod rhaid i chi wrando ar y albwm yma dros eich hun oherwydd dw i'n meddwl os ydach chi yn hoffi gwerin wel dyma'r albwm i chi ond hyd yn oed os dydach chi ddim wedi gwarno ar unrhywbeth gwerin o'r blaen dw i'n argymell i chi wrando ar y albwm yma oherwydd efallai byddwch chi wrth eich bodd!

Dyma linc i'r holl ganeuon:

Comments

Popular posts from this blog

Sorela

Cyfweld Lleucu Gwawr

Emyr Rhys