Cyfweld Lleucu Gwawr


 Es i ati i gyfweld cyn fyfyrwraig Coleg Meirion Dwyfor sef Lleucu Gwawr a holi chydig o gwestiynau iddi am ei chwrs prifysgol a'i swydd rwan. Diolch Lleucu am gymeryd rhan yn y blog! Dyma'r cwestiynau:


1. Pa gwrs wnaethoch chi astudio yn y brifysgol?
 Ar ôl astudio Cerdd, Drama, Hanes, Cymraeg (AS) a'r BAC fel cyrsiau Lefel A, mi es i ymlaen i astudio cwrs 'BA Perfformio' yng Nghaerdydd. Roeddwn i'n lwcus iawn hefyd fod y cwrs yma'n cynnig y cyfle i astudio dramor ac felly treuliais 4 mis yn adran 'Theatre Arts' ym mhrifysgol 'California State University Long Beach'.

2. Be yn union oedd cynnwys y cwrs yma?
 Roedd y cwrs yn cynnwys hyfforddiant mewn actio, canu a dawnsio dros gyfnod o ddwy flynedd. Golyga hyn fod gennyf wersi o 9 dan 5 o ddydd Llun i ddydd Gwener ac o 9 y bore dan 9 y nos pan yn gweithio ar gynyrchiadau mawr megis 'Deffro'r Gwanwyn', 'RENT' a 'I love you, you're perfect, now change'. Roedd pob diwrnod yn wahanol ac yn amrywio o wersi 'ballet' i sesiynau canu unigol i astudio techneg actio Stanislavksy.

3. Be wnaethoch chi fwynhau mwyaf am brifysgol?
Yr hyn wnes i fwynhau fwyaf am fy nghyfnod yn y brifysgol oedd yr holl brofiadau arbennig ddaeth yn sgil astudio’r cwrs. Ar fy niwrnod cyntaf fel myfyriwr, roeddwn i’n canu’r anthem ar gae Stadiwm Principality, Caerdydd efo côr CF1 yn y gêm rhwng Cymru ag Uruguay yng Nghwpan y Byd, 2015. Cefais hefyd y cyfle i berfformio mewn lleoliadau gwych megis Eisteddfod Rhyngwladol Llangollen efo Kerry Ellis a Collabro, yng Nghaerdydd efo Rachel Tucker ac yng Nghaerffili efo John Owen Jones. Roedd cael fy nysgu gan diwtoriaid  gwych yn rywbeth arall wnes i ei fwynhau am fy nghyfnod yn y brifysgol yn ogystal â chreu ffrindiau am oes tra’n byw yn Nghaerdydd. Ac yn amlwg, doedd byw yn California am 4 mis ddim yn rhy ddrwg ‘chwaith!



4. Unrhyw dips ar gyfer darpar fyfyrwyr sydd yn meddwl gwneud cwrs tebyg neu unrhyw gwrs?
Y tip cyntaf fyddwn i’n ei roi i unrhyw un sy’n ystyried mynd i’r brifysgol ydi i beidio teimlo o dan bwysau mai dyma’r unig opsiwn sydd gennych chi. Mae mynd i’r brifysgol yn gostus ac felly yn fy marn i, mae’n rhaid i chi wneud yn siŵr eich bod chi wirioneddol eisiau mynd. Peidiwch a theimlo fod rhaid i chi fynd am mai dyma sy’n ddisgwyliedig o bobl ifanc. Ewch os ydych yn teimlo eich bod yn mynd i elwa ac os mai dyma’r cam nesaf cywir i chi.


Yr ail dip fyddwn i’n ei roi i ddarpar-fyfyrwyr sy’n ystyried mynd i’r brifysgol ydi i wneud digon o waith ymchwil ar y cyrsiau gwahanol sydd ar gael. Dyma’r tro cyntaf mewn gwirionedd i chi gael gwneud y penderfyniad o beth yn union rydych eisiau ddysgu amdano. Mae’n bwysig eich bod chi’n mwynhau’r cwrs rydych chi’n ei astudio ac mae dewis y cwrs iawn yn mynd i wneud yr holl waith caled sydd i ddod fymryn yn haws.

Y tip fyddwn i’n ei roi i unrhyw un sy’n meddwl astudio cwrs tebyg i’r un wnes i ei astudio fydda i fod yn barod i weithio’n galed, yn barod i wrando ar gyngor y tiwtoriaid sy’n arbenigo yn eu meysydd, i edrych ar ôl eich corff a’ch meddwl ag i wneud y mwyaf o bob gwers neu sesiwn hyfforddiant, bob diwrnod.


5.  Beth yw eich swydd chi nawr?
 Ar y funud, rwyf yn gweithio i gwmni teledu Darlun. Rydym ni newydd orffen creu rhaglen o’r enw ‘Helo Syrjeri’ sy’n cael ei dangos ar S4C ar y funud a’r prosiect nesaf sydd ar y gweill ydi ail gyfres o ‘Gwesty Aduniad’.

6.Ydach chi yn meddwl bod mynd i'r brifysgol wedi eich helpu i gyrraedd lle rydach chi heddiw?

Credaf fod y ffaith fy mod wedi mynd i’r brifysgol wedi bod o fudd i mi gyrraedd y pwynt yma yn fy mywyd. Rwyf yn defnyddio’r hyn wnes i ei ddysgu tra’n astudio’r modiwl ‘Ffilm a Theledu’ bob dydd yn fy ngwaith ar y funud. Rydych yn datblygu’ch sgiliau yn gyson yn ystod eich cyfnod fel myfyriwr ac mae rhain yn sgiliau fyddwch chi’n eu defnyddio ac yn parhau i’w datblygu am flynyddoedd i ddod.


Comments

Popular posts from this blog

Sorela

Emyr Rhys