Emyr Rhys

Yn dilyn y post diwethaf am Cân i Gymru es i ati i gyfweld Emyr Rhys sydd yn gweithio draw yng nghampws Dolgellau a fo gyfansoddodd y gân Tyrd yn Agos. Dw i wrth fy modd gyda'r gân yma gan ei bod hi mor "catchy" a bywiog. Mae'r riffs ar y gitar a'r lleisiau cefndir yn dod a'r gân yn fyw, yn enwedig yn ystod yr adran offerynnol. Mae hi'n gân llawn hwyl sydd yn gwneud i mi eisiau symud iddi.
S4C.Cymru
1. Sut ydach chi yn mynd ati i ddechrau cyfansoddi?
Yn anaml iawn byddai'n eistedd i lawr i gyfansoddi efo offeryn yn fy nwylo. Mae'r gân fel arfer yn dod imi tra fy mod i'n gwneud pethau eraill. Yn aml iawn yn hwyr yn y nos. Yna rwy'n mynd i offeryn a recordio'r syniad i'r ffôn er mwyn cadw cofnod ohonni. Ers talwm (cyn ffonau 'smart') roeddwn i'n sgriblo syniadau ar darn o maniwsgript, ond mae hynny'n llai effeithiol.


2. Oes gen y chi unrhyw dips ar gyfer cyfansoddi?
Mae angen trio plethu ffrwyth y dychymyg efo ymwybyddiaeth o harmoni a theori. Byddwch chi'n darganfod bod y syniadau gorau yn cyd-fynd efo'r hyn mae rywun wedi dysgu am harmoni ayb.
 
3. Beth yw'r broses o ymgeisio i fynd ar Can i Gymru? 
Dim ond anfon demo a copi o'r geiriau i'r gwmni teledu cyn Nadolig. Mae'n proses reit syml heblaw bod rhaid creu recordiad o'r gân sy'n egluro pob agwedd ohonni.


4. Sut brofiad oedd cael mynd ar Can i Gymru?
Mae'n proses diddorol. Rhaid gweithio efo pobl eraill, sef cantorion, a'r cyfarwyddwyr cerdd. Imi, mae'n debyg iawn i'r proses o baratoi CD. Dwi ddim yn canu caneuon fy hun felly mae'n rhaid imi gweithio trwy cerddorion eraill. Rwy'n mwynhau gwneud hynny. Mae'n braf cael rhannu'r proses.


5. Unrhyw dips i unrhyw un sydd yn meddwl ymgeisio ar gyfer can i Gymru?
Ewch amdani. Cofiwch mae cystadleuaeth yw hwn sy'n trafod celfyddyd, felly mae'n anodd iawn bod yn sicr o beth fydd y ganlyniad. Dylich chi ddim poeni gymaint am hynny, dim ond mwynhau cymryd rhan a bod yn falch bod pobl yn clywed eich gerddoriaeth. Rwyf wedi cystadlu sawl gwaith. Weithiau yn peidio cyrraedd yr 8 olaf. Weithiau dod yn ail (yn 2003). Ceisiwch feddwl am ffordd o ddefnyddio'r cân ar ol iddo fynd trwy'r cystadleuaeth.


Dyma linc i'r gân, mae hi'n werth gwrando arni!
https://www.youtube.com/watch?time_continue=43&v=IeOJpEYUeIU

Comments

Popular posts from this blog

Sorela

Cyfweld Lleucu Gwawr