Mei Gwynedd

Yn ddiweddar dwi wedi bod yn mwynhau gwrando ar EP newydd Mei Gwynedd â ddaeth allan mis Ionawr sef  Tafla'r Dis.  Mae rhaid i mi gyfadde ers Gwobrau'r Selar dwi wedi dod i fwynhau ei ganeuon oherwydd cyn hyn doeddwn i ddim wedi cymryd llawer o sylw o'i ganeuon, efallai  clywed ambell un ar y radio ond dyna ni. Gan fy mod i wir yn mwynhau'r EP yma ar y funud be well i'w wneud wythnos yma na rhoi adolygiad i chi o'r EP a dewis fy hoff gân i fel y fedrwch fynd ati yn syth i wrando!



Fy hoff gân i o'r EP ydi Eistedd Wrth Yr Afon gan ei bod hi mor fywiog. Dw i wrth fy modd gyda'r offeryniaeth oherwydd mae amrywiaeth dda o gitar drydan i'r allweddellau. Wrth ddechrau gwrando ar y gân yma rydych yn disgwyl cân rôc neu pop ond dw i yn teimlo bod yr allweddau yn y darn offerynnol yn rhoi naws gwahanol fwy jazzy iddi. Mae'r lleisiau cefndir yn ychwanegu i'r darn hefyd wrth ganu "ooohhh" yn y cefndir mae hyn yn gwneud y gân yn fwy cofiadwy. Yn fy marn i mae hon yn gân catchy sydd yn hawdd i wrando arni yn enwedig os ydach chi yn chwilio am gân bywiog!

Dyma linc i'r gân!

https://www.youtube.com/watch?v=6bnH7H3ZEY4&list=PLZUuhy3IAy7ZRnnJ_pejy7lCDvE1wq4A9&index=6

      Os dydach chi ddim wedi dod ar draws EP Mei Gwynedd cyn hyn wel efallai eich bod wedi clywed am y band Big Leaves. Ffurfiwyd y band yn wreiddiol pan oedd yr aelodau yn eu arddegau ac yn ddisgyblion yn Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon. Alien & Familiar oedd albwm olaf y band ac yn gampwaith ymysg nifer o senglau ag albymau penigamp a gyhoeddwyd gan y band.      Yn y blynyddoedd cynnar roedd potensial y band dwyieithog yn amlwg ond mae eu albwm Pwy Sy’n Galw? yn albwm uniaith Gymraeg, sydd yn cynnwys eu cân enwocaf, ‘'Seithennyn'’. 

Dywedodd Rhodri Siôn mewn cyfweliad - "Our song 'Seithenyn' has a middle eight that's like a Welsh Bohemian Rhapsody. It's a song about this Welsh legend. There's barber shop singing in the middle!" 

Rhyddhaodd y band nifer o EPs o safon a thyfodd eu statws fel band ‘byw’ ardderchog.


Y Band Big Leaves 
Rhaid i mi gyfadde dw i wedi dod ar draws un arall fyddai gwrando dipyn arni rwan!
Dyma linc i'r gân!

Comments

Popular posts from this blog

Sorela

Cyfweld Lleucu Gwawr

Emyr Rhys