Cyfweld Gwenan Gibbard

Dyma ein cyfweliad gyda Gwenan Gibbard! Diolch Gwenan am eich cyfraniad i'r blog! 1. Eglurwch chydig o eich hanes a beth ydych yn ei wneud o ddydd i ddydd. Mi ges i fy magu ym Mhwllheli, ac wedi mynychu Ysgol Gynradd Cymerau ac wedyn Ysgol Glan y Môr yn y dref, mi ddechreuais ar fy nghwrs lefel A mewn Cerddoriaeth, Cymraeg a Hanes, a hynny yng Ngholeg Meirion Dwyfor – yr ail flwyddyn o fyfyrwyr i fynd yno. Oddi yno wedyn, mi es ymlaen i astudio Cerddoriaeth ym Mangor. Wedi graddio mi wnes radd MA mewn perfformio ac ymchwil i hanes cerddoriaeth Cymru. Daeth cyfle wedyn i astudio’r delyn yn yr Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain, ac yno bues i am ddwy flynedd yn gwneud diploma mewn perfformio, cyn dychwelyd yn ôl i fy ardal genedigol, ac yn ôl i fyw a gweithio yma. Yn ffodus iawn, mi ges swydd efo Cwmni Sain a bellach dwi’n gweithio efo’r Cwmni ers dros 15 mlynedd, yn canolbwyntio fwyaf ar gyhoeddi cerddoriaeth brintiedig o bob math, yn drefniannau a...