Bwncath

Band gwerin o ardal Gaernarfon a ffurfwyd yn 2014 ydi Bwncath ond os na ydych chi yn gyfarwydd gyda'r band dw i yn siwr eich bod yn gyfarwydd gyda'r prif leisydd sef Eildyr Glyn a ennillodd Cân i Gymru eleni gyda'r gân "Fel hyn 'da ni fod".
Dyma linc i'r post am y gystadleuaeth Cân i Gymru: http://stafellgerdd.blogspot.com/2019/03/can-i-gymru.html
Albwm Bwncath- https://sainwales.com/store/sain/rasal-cd042
Rhyddhawyd y band eu albwm Bwncath yn 2017 a hwn yw eu albwm poblogaidd a mae'n hawdd coelio hynny oherwydd mae holl ganeuon yr albwm yn werth chweil ond fy hoff gân i ydi Allwedd. Dw i wrth fy modd gyda'r gân oherwydd mae'r gitar acwstig a'r llais cefndir yn rhoi naws ymlaciol i'r gân. Mae'r geiriau yn amlwg yn adrodd stori trist felly mae hon yn gân emosiynol. Mae'r llais cefndirol yn ychwanegu gwaed a teimlad dyfnach i'r darn. Byddaf yn gwrando ar y gân yma pan fyddaf i angen amser i fy hun ac i ymlacio yn lle gwrando ar unrhywbeth trwm. Mae'r albwm yma yn wych ar gyfer cael amser i feddwl ac ymlacio. Felly dyma linc i'r gân: https://www.youtube.com/watch?v=uU4lKAVMH_s

Yna es i ati i weld pa ganeuon gan y band oedd eich ffefrynnau chi! Dyma nhw:

Swyn
Y Dderwen Ddu- Dyma fy hoff gân i oherwydd mae hi'n aros yn y cof ar ôl gwrando arni a dw i rili'n licio'r tiwn!

Erin
Curiad y Dydd- Mae hi'n gofiadwy oherwydd y gitar acwstig a'r geiriau cofiadwy, felly dyma fy ffefryn i!

Deio
Allwedd- Dyma fy hoff gân i oherwydd y geiriau cofiadwy sydd ynddi a'r harmoniau!

Mia
Curiad y Dydd- Dw i'n hoffi'r gân yma oherwydd ei bod yn wahanol i lot o ganeuon eraill sydd allan yna a mae'r lyrics yn ddiddorol i wrando arnynt, heb anghofio'r tiwn catchy!

Comments

Popular posts from this blog

Sorela

Cyfweld Lleucu Gwawr

Emyr Rhys