Cyfweld Yr Eira


Dyma ein cyfweliad gyda'r band Yr Eira! Diolch yn fawr am gymeryd rhan yn y blog! 


1. Eglurwch chydig am hanes y band.
Natho ni ffurfio rhyw 6 mlynedd yn ol ar ol i fi fod yn ysgrifennu a creu demos ar ben ei hun am y tro cyntaf! Natho ni ryddhau dwy gan ac yna recordio sesiwn i Radio Cymru yn 2013 a oedd yn cynnwys caneuon fel Elin a Cadwyni. Yn dilyn hynny natho ni seinio i label I ka Ching, ac yna dros y blynyddoedd 'da ni wedi rhyddhau senglau, EP ac Albym hefo'r label bychan yma! 'Da ni wedi gigio dros Brydain gan gynnwys gwyliau fel T in the Park, Festival No 6 ac Eisteddfodau!

2. Sut fyddech chi yn disgrifio eich cerddoriaeth i unrhyw un sydd ddim mor gyfarwydd a eich cerddoriaeth?
Mae'r gerddoriaeth dwi'n meddwl anthemig, sw'n i'n ei ddisgrifio fo fel Dream Pop, lot o gitars shimmery ac alawon canadwy!

3. Pa gan yw eich can gorau fel band?
Can gorau i ni berfformio ydi Pan Na Fyddai'n Llon - llawn egni, a diweddglo mawr!

4. Unrhyw ddigwyddiadau cyffrous yn y dyfodol?
Ysgrifennu albym rhif 2 yn haf 2019.

5. Unrhyw dips i unrhywun sydd eisiau dechrau band?
I beidio bod yn embaressed o unrhywbeth ti'n ysgrifennu. Os ti'n dechra band, bydda'n hyderus a bydda'n committed!



Comments

Popular posts from this blog

Sorela

20 Mlynedd ers Rhyddhau Mwng

Iestyn Tyne (Cyfweliad)