Gradd mewn Therapi Cerdd
![]() |
https://www.bangor.ac.uk/index.php.en |
Mi wnes i gysylltu gyda darlithydd Cerdd ym Mhrifysgol Bangor sef Gwawr Ifan i holi am therapi cerdd oherwydd bod gen i ddiddordeb yn y maes yma ac roeddwn i yn meddwl y byddai yn ddiddorol i weld beth yn union ydi therapi cerdd. Felly holwyd myfyrwyr yr 2il a 3ydd flwyddyn am therapi cerdd, gan eu bod nhw'n dilyn y modiwlau Cerddoriaeth mewn Iechyd a Lles. Felly dyma chi wybodaeth am therapi cerdd gobeithio y bydd o ddiddordeb i chwi! Diolch yn fawr iawn i bawb wnaeth gymeryd rhan!
1. Beth yn union ydi therapi cerdd?
Mae therapi cerdd yn broffesiwn arbenigol sy'n dilyn blynyddoedd o hyfforddiant. Mae therapydd cerdd yn helpu amrywiol grwpiau o bobl (e.e. plant awtistig; pobl gyda dementia) drwy gyfrwng cerddoriaeth. Yn bennaf, mae'n helpu pobl i gyfathrebu pan maent yn ei chael yn anodd i ddefnyddio iaith. Fel arfer, nid yw'n 'gwella' pobl, ond mae'n eu helpu yn emosiynol ac yn gymdeithasol i ddelio gyda'u sefyllfa.
2. Ydach chi yn meddwl bod cerdd yn bwysig er mwyn helpu unigolion ddod drwy adegau anodd? 3. Sut mae gwneud hyn?
Mae'n gallu bod yn arbennig o ddefnyddiol i bobl sy'n mynd drwy gyfnodau anodd pan nad ydynt yn gallu siarad neu gyfathrebu. Mae'n gallu helpu i atgoffa pobl o ddigwyddiadau yn eu gorffennol, neu helpu i greu neu fynegi emosiynau penodol. Weithiau, mae math arbennig o therapi (e.e. therapi feibroacwstig, sy'n defnyddio dirgryniadau o gerddoriaeth) yn gallu cael ei ddefnyddio i drion cyflyrau ffisegol hefyd.
4. Byddai pawb yn elwau o therapi cerdd?
Mae'r rhan fwyaf o bobl yn mwynhau cerddoriaeth o ryw fath, ond mae theapi cerdd yn fwy arbenigol. Fyddai therapi cerdd ddim yn addas i bawb efallai, ond mae yn arbennig o effeithiol gyda rhai grwpiau penodol e.e. awtistiaeth; dementia ayyb.
5. Ydych yn credu bod diffyg pobl yn y maes therapi cerdd? /
Oes digon yn cael ei wneud er mwyn hyrwyddo therapi cerdd yn eich barn chi?
Mae prinder ymwybyddiaeth am y pwnc yn bendant, ac mae prinder darpariaeth, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig. Mae angen cyllid er mwyn gallu datblygu mwy o brosiectau, datblygu mwy o dystiolaeth gadarn o effaith therapi cerdd, a thrwy hyn godi ymwybyddiaeth am ei bwysigrwydd.
Am fwy o wybodaeth am therapi cerdd / y celfyddydau mewn iechyd a lles, gweler:
Comments
Post a Comment