Cyfweld Gwenan Gibbard


Dyma ein cyfweliad gyda Gwenan Gibbard! Diolch Gwenan am eich cyfraniad i'r blog!

1. Eglurwch chydig o eich hanes a beth ydych yn ei wneud o ddydd i ddydd.

Mi ges i fy magu ym Mhwllheli, ac wedi mynychu Ysgol Gynradd Cymerau ac wedyn Ysgol Glan y  Môr yn y dref, mi ddechreuais ar fy nghwrs lefel A mewn Cerddoriaeth, Cymraeg a Hanes, a hynny yng Ngholeg Meirion Dwyfor – yr ail flwyddyn o fyfyrwyr i fynd yno.  Oddi yno wedyn, mi es ymlaen i astudio Cerddoriaeth ym Mangor.  Wedi graddio mi wnes radd MA mewn perfformio ac ymchwil i hanes cerddoriaeth Cymru.  Daeth cyfle wedyn i astudio’r delyn yn yr Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain, ac yno bues i am ddwy flynedd yn gwneud diploma mewn perfformio, cyn dychwelyd yn ôl i fy ardal genedigol, ac yn ôl i fyw a gweithio yma.  Yn ffodus iawn, mi ges swydd efo Cwmni Sain a bellach dwi’n gweithio efo’r Cwmni ers dros 15 mlynedd, yn canolbwyntio fwyaf ar gyhoeddi cerddoriaeth brintiedig o bob math, yn drefniannau ar gyfer corau ac yn lyfrau o ganeuon.  Dwi’n mwynhau’r arw cael defnyddio fy sgiliau ymarferol fel cerddor yn fy ngwaith bob dydd – mae llawer o waith golygu cerddoriaeth i’w wneud a llywio cyfrolau drwy’r wasg a hefyd mae’n braf cael penderfynu ar raglen gyhoeddi’r cwmni, a chlywed y cyfansoddiadau a’r trefniannau y byddaf yn eu golygu a’u paratoi yn cael eu perfformio ar lwyfannau mewn eisteddfodau a chyngherddau ac ar y teledu a’r radio.  Ers mis, rwyf hefyd yn gyfrifol am gwmni cyhoeddi Gwynn, sydd yn canolbwyntio yn bennaf ar gerddoriaeth glasurol Gymreig a gwerin.  Yn Sain hefyd, mae cyfle i weithio ar ambell brosiect cerddorol a chryno ddisg – e.e mi fues yn gweithio yn ddiweddar ar gasgliad o draciau merched y 60au a’r 70au – prosiect diddorol tu hwnt!  Byddaf hefyd yn gweithio gyda chwmniau tramor sydd eisiau trwyddedu a rhyddhau ein cerddoriaeth ar hyd a lled y byd. 

Ar wahan i’r gwaith yn Sain o ddydd i ddydd, rwyf hefyd yn parhau i weithio fel cerddor drwy berfformio, yma yng Nghymru a thu hwnt.  Fy mhrif ddiddordeb yw cerddoriaeth draddodiadol Gymreig a mae’n braf iawn gallu cyfuno fy ngwaith bod dydd efo’r ochr ymarferol, a chael cyfle i deithio hwnt ac yma ac i wledydd a chyfandiroedd eraill i rannu cerddoriaeth Cymru efo cynulleidfaoedd newydd.  Rwyf hefyd yn rhoi gwersi telyn, yng nghanolfan William Mathias yng Nghaernarfon, ac adref ym Mhwllheli.     


2. Ydi cerddoriaeth wedi agor llawer o ddrysau i chi o ran cael profiadau newydd?
Yn bendant!  Mae cerddoriaeth wedi mynd â fi i sawl gwlad hynod o ddifyr.  Hyd yn hyn, dwi wedi cael y cyfle i berfformio mewn gwyliau a chyngherddau yn America, Patagonia, Canada, Ffrainc, Norwy, Sweden, Sbaen, Gwlad yr Iâ a Hong Kong!  Mae wedi arwain at brofiadau gwych yma yng Nghymru hefyd a dwi wrth fy modd yn gweithio ar brosiectau cerddorol amrywiol.  Mae sawl un yn aros yn y cof, e.e y perfformiad yng nghyngerdd agoriadol Gŵyl Womex yng Nghaerdydd a hefyd y cyfle ges i i gyfansoddi a pherfformio fy ngwaith fy hun, yn seiliedig ar fywyd y telynor Osian Ellis, yng Ngŵyl Delynau Rhyngwladol Caernarfon llynedd.  Drwy gerddoriaeth hefyd dwi wedi dod i adnabod llawer iawn o bobl a gwneud llawer o gyfeillion.  Mae rhywun yn dysgu llawer wrth gyd-weithio efo cerddorion eraill o wahanol wledydd – yn dysgu am eu ffordd o fyw a hefyd am eu traddodiadu cerddorol.  Does dim byd fel cerddoriaeth i ddod a phobl ynghyd, ar lefel leol, cenedlaethol a byd-eang.      

3. Pa brofiadau cerddorol ydych wedi eu mwynhau fwyaf a pam?
Mae sawl profiad yn aros yn y cof.  Mae’r profiad o gyd-weithio efo cerddorion eraill wastad yn un arbennig.  Dwi wedi cyd-weithio llawer efo Meinir Gwilym – mae’r ddwy ohonom ar yr un donfedd gerddorol rywsut a mae’n braf, yn ogystal â’r perfformio unawdol, i rannu llwyfan ambell waith a gweithio ar ddeunydd cerddorol fymryn yn wahanol.  Profiad hyfryd oedd cyd-ganu efo Alejando Jones – rydym wedi cyd-ganu sawl gwaith erbyn hyn, ond y tro cyntaf sy’n aros yn y cof!  Rywsut neu’i gilydd, roedd y ddau ohonom ar lwyfan yr un pryd mewn gŵyl Geltaidd yn yr Andes ym Mhatagonia, ac roedd rhaid i ni benderfynu ar y pryd, ac yn y fan a’r lle, ar ganeuon i’w canu efo’n gilydd!  Mi gawson ni sgwrs sydyn (iawn!), a phenderfynu ar lond llaw o ganeuon, dewis y cywair, a ffwrdd â ni!  Profiad bythgofiadwy, a mi weithiodd yn iawn dwi’n meddwl!  Dwi wedi cael cyfle hefyd i gyd-weithio a chyd-berfformio efo Cerys Matthews – yng nghyngerdd agoriadol Womex, a wedi hynny ar albwm Cerys o ganeuon gwerin Cymreig ac mewn sawl cyngerdd.  Mae rhywbeth i’w ddysgu gan bawb dwi’n meddwl a mae’n braf sylwi ar ddulliau amrywiol artistiaid o berfformio a thrin y gynulleidfa.

O ran perfformiadau, dwi wedi bod yn lwcus iawn i gael sawl profiad pleserus a diddorol.   Yng Nova Scotia, Canada, dwi’n cofio teithio am 4 neu 5 awr i wneud cyngherddau mewn pentrefi gwledig a diarffordd a theithio 4 neu 5 awr yn ôl wedyn i’r llety, cyn gwneud yr un peth y diwrnod wedyn.  Ond braf iawn, wedi cyraedd, oedd gweld y lleoliadau yn llawn i’r ymylon, a chroeso thwymgalon a llond gwlad o fwyd yn ein haros!  Yn America, dwi’n cofio gwneud cyngerdd mewn lle hynod iawn o’r enw yr ‘Hall of Mirrors’, a hynny efo Côr Meibion y Penrhyn yn y Gymanfa Ganu Gymreig.  Roedd rhyw awyrgylch arbennig yno.  Cofio canu wedyn mewn hen gronfa ddŵr, o dan y ddaear, yng Ngŵyl Lorient yn Llydaw, a mewn hen hen eglwys mewn golau cannwyll yng nghefn gwlad Sbaen.  Ym Mhatagonia wedyn, dwi’n cofio’n arbennig am gyngerdd yn festri hen gapel Bethel, Gaiman, a’r lle yn llawn o drigolion lleol y pentref, a’r rheiny i gyd bron o dras Cymeig ac yn siarad Cymraeg wrth gwrs.  Roedd rhyw deimlad arbennig wrth berfformio efo plant bach Ysgol Gynradd Gymraeg y Gaiman, a theimlo mor agos at adref a hynny mor bell i ffwrdd.   Mae’r profiadau tramor wastad yn rai difyr, ond mae’r profiadau mae rhywun yn ei gael wrth fynd o amgylch Cymru yr un mor ddifyr a gwerthfawr.  Dwi wedi dod i nabod sawl pentref a thref, a mae rhywbeth arbennig mewn perfformio i gymdeithasau bach mewn lleoliadau cartrefol.

4. Sut brofiad ydio cael recordio albwm eich hun? 
Dwi wedi bod yn ffodus iawn i gael recordio a rhyddhau 3 albym hyd yn hyn, ac un EP.  Nôl yn 2005 daeth yr albym cyntaf allan, ‘Y Gwenith Gwynnaf’.  Wedyn daeth ‘Sidan Glas’ yn 2008 a ‘Cerdd Dannau yn 2013.  Yn 2015 daeth ‘Y Gorwel Porffor’ allan (EP, 6 chân).  Mae recordio cryno ddisg yn brofiad arbennig ac yn beth braf i gerddor sy’n teithio ac yn gwneud llawer o berfformiadau byw.  Mae’n gyfle i chi allu lledaenu eich cerddoriaeth, yn gyfle i gynulleidfaoedd allu gwerthawrogi a gwrando rhagor ar eich canu ac yn gyfle i’ch ymestyn chi fel cerddor hefyd.  Mae’n rhaid i’r amser fod yn iawn i recordio dwi’n meddwl a dwi wedi trio, efo pob albym, rhoi rhywbeth gwahanol i bobl, gan obeithio eu bod yn mwynhau gwrando! e.e roedd y ddau albym cyntaf y canolbwyntio mwy ar ganeuon a cherddoriaeth werin a ‘Cerdd Dannau’ yn canolbwyntio mwy ar arbrofi efo cerdd dant. 

5. Faint o berfformio rydych yn ei wneud?
Dwi’n gwneud llawer iawn o berfformio ar y funud, ac wedi gwneud ers sawl blwyddyn bellach.  Mae rhai cyfnodau prysurach na’i gilydd ond hyd yn hyn leni, rhwng Ionawr a diwedd Mawrth, dwi wedi gwneud 8 o gyngherddau.  Mae’r cyngherddau yn amrywio o rai bach cartrefol i rai mwy, a’r lleoliadau yn gallu bod yn gapeli, neuaddau pentref, tafarndai, theatrau ayb.  Yr amrywiaeth dwi’n fwynhau, a mae pob cyngerdd a chynulleidfa yn wahanol.  Mae mis Mawrth fel arfer yn brysur iawn efo cyngherddau Gŵyl Ddewi, a dwi hefyd yn cyfeilio mewn sawl Eisteddfod ar gyfer y cystadleuthau cerdd dant.  Mae tipyn o bethau i ddod rŵan – mi fyddai’n perfformio yn yr Ŵyl Ban Geltaidd yn Iwerddon ymhen pythefnos ac yn lawr i Gaerdydd i wneud cyngerdd ddechrau Mai.   Mae tipyn ar y gweill ar gyfer yr haf hefyd gan gynnwys perfformiadau yn Tŷ Gwerin yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst.      

 6. Unrhyw dips i fyfyrwyr sydd yn meddwl am ddilyn gyrfa mewn cerddoriaeth?
Os ydach chi’n ddigon lwcus I gael dilyn gyrfa ym myd cerddoriaeth yna mae’n bwysig cymeryd y cyfleoedd sy’n dod i’ch rhan a mentro ambell waith i wneud rhywbeth gwahanol.   Mae mwynhau hefyd yn bwysig wrth gwrs – elfen hollol ganolog o ddiddanu cynulleidfa.  Mae’n rhaid i’r perfformiwr fwynhau os ydi’r gynulleidfa fwynhau!  Cofiwch mai nhw sy’n bwysig a’u bod nhw fel arfer wedi talu i ddod i’ch gweld!  Yn aml iawn, mae cerddor proffesiynol yn gorfod cyfuno sawl peth i wneud gyrfa – dysgu, perfformio, cyfansoddi, gweithdai, felly peidiwch a meddwl ar hyd un trywydd yn unig.  Mwynhewch yr amrywiaeth sy’n dod i’ch rhan wrth weitho yn y maes cerddoriaeth! 

Comments

Popular posts from this blog

Sorela

Cyfweld Lleucu Gwawr

Emyr Rhys