Es i ati i gyfweld cyn fyfyrwraig Coleg Meirion Dwyfor sef Lleucu Gwawr a holi chydig o gwestiynau iddi am ei chwrs prifysgol a'i swydd rwan. Diolch Lleucu am gymeryd rhan yn y blog! Dyma'r cwestiynau: 1. Pa gwrs wnaethoch chi astudio yn y brifysgol? Ar ô l astudio Cerdd, Drama, Hanes, Cymraeg (AS) a'r BAC fel cyrsiau Lefel A, mi es i ymlaen i astudio cwrs 'BA Perfformio' yng Nghaerdydd. Roeddwn i'n lwcus iawn hefyd fod y cwrs yma'n cynnig y cyfle i astudio dramor ac felly treuliais 4 mis yn adran 'Theatre Arts' ym mhrifysgol 'California State University Long Beach'. 2. Be yn union oedd cynnwys y cwrs yma? Roedd y cwrs yn cynnwys hyfforddiant mewn actio, canu a dawnsio dros gyfnod o ddwy flynedd. Golyga hyn fod gennyf wersi o 9 dan 5 o ddydd Llun i ddydd Gwener ac o 9 y bore dan 9 y nos pan yn gweithio ar gynyrchiadau mawr megis 'Deffro'r Gwanwyn', 'RENT' a 'I love you, you're perfect, now chang...
Comments
Post a Comment