Gwobrau Selar
Penwythnos diwethaf cynhaliwyd ein dathliad ni o ganeuon y sin roc Gymraeg sef Gwobrau! I'r rhai ohonnoch chi sydd ddim yn gyfarwydd gyda Y Selar, wel cylchgrawn misol ydyw sydd yn arbennigo mewn cerddoriaeth Cymraeg. Maent yn hysbysebu gwahanol gigs sydd yn mynd ymlaen (handi iawn) a maent yn ysgrifennu am holl newyddion y bandiau er enghraifft pwy sydd wedi rhyddhau rhywbeth newydd neu wedi ennill gobr. Dyma linc i chi gael darganfod mwy, yn sicr mae'n werth ei ddarllen!
Dw i'n siwr eich bod chi gyd yn ysu i gael gwybod pwy sydd wedi ennill yr holl wobrau 'ma!
Felly bob blwyddyn mae'r Selar yn cynnal noson wobrwyo er mwyn gwobrwyo y bandiau newydd gorau ond ni sydd yn cael pleidleisio i pwy rydym ni eisiau ennill ac i mi mae hyn yn ei wneud yn lot fwy cyffrous! Blwyddyn yma roedd Gwobrau Selar yn mynd ymlaen dros dwy noson yn lle un, felly mwy o amser i fwynhau! Es i i Aberystwyth ar y nos Sadwrn sef yr ail noson a Gwilym oedd yn cloi Gwobrau. Mi gafodd Gwilym benwythnos llwyddiannus iawn yn ennill 5 gwobr! Da iawn nhw! Roedd hi'n wych cael eu clywed yn fyw a finna wedi bod yn mwynhau eu albwm newydd Sugno Gola gymaint yn ddiweddar!
![]() |
Sugno Gola |
- Fideo Cerddoriaeth Gorau- Gwilym am y fideo Cwin
- Gwaith Celf Gorau- Gwilym am yr albwm Sugno Gola
- Can Orau- Catalunya gan Gwilym
- Record Hir Orau- Sugno Gola gan Gwilym
- Band Gorau- Gwilym
- Artist Unigol Gorau- Alys Williams
- Seren y Sin- Branwen Williams
- Cyflwynydd Gorau- Tudur Owen
- Hyrwyddwyr Annibynnol Gorau- Clwb Ifor Bach
- Digwyddiad Byw Gorau- Maes B
- Band neu Artist Neywdd Gorau- Lewys
Roedd hon yn wobrau gwerth ei chofio! Dwi methu disgwyl am yr un flwyddyn nesaf yn barod! Mae mwy o gerddoriaeth gwych i'w ddod eto blwyddyn yma!
Comments
Post a Comment