Gwobrau Selar

Penwythnos diwethaf cynhaliwyd ein dathliad ni o ganeuon y sin roc Gymraeg sef Gwobrau! I'r rhai ohonnoch chi sydd ddim yn gyfarwydd gyda Y Selar, wel cylchgrawn misol ydyw sydd yn arbennigo mewn cerddoriaeth Cymraeg. Maent yn hysbysebu gwahanol gigs sydd yn mynd ymlaen (handi iawn) a maent yn ysgrifennu am holl newyddion y bandiau er enghraifft pwy sydd wedi rhyddhau rhywbeth newydd neu wedi ennill gobr. Dyma linc i chi gael darganfod mwy, yn sicr mae'n werth ei ddarllen! https://selar.cymru/categori/newyddion/ Felly bob blwyddyn mae'r Selar yn cynnal noson wobrwyo er mwyn gwobrwyo y bandiau newydd gorau ond ni sydd yn cael pleidleisio i pwy rydym ni eisiau ennill ac i mi mae hyn yn ei wneud yn lot fwy cyffrous! Blwyddyn yma roedd Gwobrau Selar yn mynd ymlaen dros dwy noson yn lle un, felly mwy o amser i fwynhau! Es i i Aberystwyth ar y nos Sadwrn sef yr ail noson a Gwilym oedd yn cloi Gwobrau. Mi gafodd Gwil...