Miskin

 Llun: Kristina Banholzer


Mae Miskin yn fand lleol cyffrous â ffurfwyd yn Coleg Meirion Dwyfor. Mae'r band yn tyfu o nerth i nerth a rwyf yn edrych ymlaen i glywed mwy o eu caneuon a eu gweld mewn mwy o ddigwyddiadau i ddod. Diolch yn fawr i'r band am gyfrannu i'r blog drwy gymeryd amser i ateb ein cwestiynau.

1. Eglurwch chydig am hanes y band fel sut y ffurfwyd ac yn y blaen.
Dani bellach yn mynd o dan yr enw Miskin, ond yn wreiddiol ffurfwyd Pyroclastig (enw’r band yn wreiddiol) yng Ngholeg Meirion-Dwyfor, Pwllheli. Roeddwn i wastad wedi isio bod mewn band, felly roedd cychwyn coleg yn gyfla perffaith i ffeindio rei erill oedd hefyd awydd bod mewn band. Ar ol dipyn o lwyddiant hefo gigs penderfynom fynd i’r stiwidio i recordio EP gaeth ei ryddhau dan label Rasal (Sain) yn ystod haf 2017. Ymunodd Llew Glyn ar y gitar yn ar ol haf 2017, a fe adawodd Kieran Roberts (allweddell) y band, nath hynny newid dipyn ar swn y band, felly penderfynom gael llechan lan o dan yr enw Miskin. 

Llun:Kristina Banholzer
2.Pwy sydd yn yn y band i gyd a be ydi rhan pawb?
Hawys Williams - gitar fas a llais; Llyr Wyn - saxophone; Gethin Glyn - gitar a llais; Llew Glyn - Gitar; Gruff Elidir- Dryms.
Llun: Kristina Banholzer
3.Ydach chi yn chwarae mewn dipyn o gigs?
Ar y cyfan dani wedi bod yn lwcus iawn ‘fo gigs, yn enwedig ar y dechra. Roedd ‘na lot o gigs da yn cael ei trefnu yng Nglwb Rygbi Pwllheli, yn cynnwys ein gig cynta’n cefnogi Swnami! Dani wedi chwarae yn Neuadd Buddug, Y Bala; Saith Seren Wrecsam a Clwb Ifor Bach, Caerdydd. Ond dwi’n siwr bysa pawb yn cytuno mae’r uchafbwynt oedd chwarae ar Lwyfan y Maes Eisteddfod 2016 fel rhan o gystadleuaeth Brwydr y Bandia.
Llun: Kristina Banholzer
4.Sut byddech chi yn disgrifio eich cerddoriaeth i’r rhai sydd efallai ddim mor gyfarwydd â'ch caneuon.
Roc efo chydig o saxphone! (Mae stwff diweddara Miskin fyny ar soundcloud)

5.Oes gennych chi "dips" i rhywun sy'n meddwl dechrau band yng Ngholeg Meirion-Dwyfor?
Jest ewch amdani! Mwya’n byd newchi roid mewn i’r band, mwya gewch chi ohono. Mae’n gallu bod yn lot o waith ar adega ond ma’r amseroedd da a’r atgofion yn neud o i gyd werth o!

Comments

Popular posts from this blog

Sorela

Cyfweld Lleucu Gwawr

Emyr Rhys