Cyfweld Cast Sioe Gerdd Gris CMD

Yn flynyddol cynnhelir Sioe Gerdd gan Coleg Meirion Dwyfor Pwllheli a bob blwyddyn mae llawer o fyfyrwyr yn cymeryd rhan. Gris oedd y sioe eleni a dw i'n siwr bod llawer ohonnoch chi yn gyfarwydd â'r sioe ond i'r rhai ohonnoch chi sydd ddim, dyma flas o stori'r sioe. Y ddau brif gymeriad yw Danny a Sandy sef dau gariad sydd wedi cyfarfod dros yr haf ond pan mae Sandy yn ymuno â Ysgol Rydel a'r ôl y gwyliau mae pethau yn wahanol rhwng y ddau. Mae Danny dal mewn cariad gyda Sandy a felly yn ceisio ei hennill yn nôl. Mi nai adael hi i chi i ddarganfod os ydi Danny yn llwyddo! Yng nghanol hyn i gyd mae llawer o bethau yn mynd ymlaen yn yr ysgol a mae gan Sandy grŵp o ffrindiau sef y Pink Ladies tra bod Danny yn rhan o'r grŵp ffrindiau The T Birds. Mae'n sioe llawn hwyl ac yn sicr o ennyn diddordeb llawer. Felly tra roedd yr holl fyfyrwyr yn brysur yn ymarfer ar gyfer y sioe es i o amgylch yn holi ambell un:

Lucy Hancock

Be ydi dy ran di yn y sioe?
Dw i yn chwarae rhan Sandy yn y sioe sef cariad Danny. Mae hi'n un o'r prif gymeriadau felly rwyf yn falch iawn fy mod wedi cael fy newis i'w chwarae.

Wyt ti'n mwynhau cymeryd rhan yn y sioe? Pam?
Yndw dw i yn mwynhau oherwydd mae'n rhoi cyfle i ni gael darnau mawr yn y sioe os ydan ni yn dymuno ond hefyd darn llai os nad ydyn ni eisiau darn unigol e.e bod yn y côr. Mae'r Sioe hefyd yn ddihangfa o waith coleg am ychydig!

Wyt ti'n mwynhau perfformio Gris?
Yndw! Dw i wrth fy modd gyda'r ffilm a felly mae cael chwarae rhan Sandy yn wych!

Sawl gwaith ydach chi wedi bod yn ymarfer?
Lot!

Ydi'r sioe yn rhoi llawer o gyfleoedd i chi?
Mae'n ymarfer da i mi gan fy mod yn astudio drama mae'n help i mi at fy ngwaith drama ond yn ymarfer da ar gy6fer fy arholiad perfformio ac yn rhoi blas i mi o be allai fynd ymlaen i'w wneud os yn dewis drama fel gyrfa.


Howard Trueman

Be ydi dy ran di yn y sioe?
Dwi'n chwarae rhan Sonny sef un o'r T Birds.

Wyt ti'n mwynhau cymeryd rhan yn y sioe? Pam?
Yndw! Mae'n gyfle da i gyfarfod pobl newydd rhai ni fyddai yn eu gweld arfer oherwydd pynciau gwahanol. Mae'n gyfle i'r flwyddyn gyntaf a'r ail gymysgu a dod i adnabod ein gilydd yn well.

Wyt ti'n mwynhau perfformio Gris?
Yndw mae'n hwyl!

Sawl gwaith ydach chi wedi bod yn ymarfer?
Lot ond dion ar gyfer y perfformiad

Ydi'r sioe yn rhoi llawer o gyfleoedd i chi?
Yndi enwedig ar hyder magu hyder!


Awen Puw

Be ydi dy ran di yn y sioe?
Dwi'n chwarae rhan Rizzo sef un o'r Pink Ladies.

Wyt ti'n mwynhau cymeryd rhan yn y sioe? Pam?
Yndw! Mae'n llawer o hwyl ac yn gyfle da i gymdeithasu â ffrindiau!

Wyt ti'n mwynhau perfformio Gris?
Yndw oherwydd mae amrywiaeth da o ganeuon rhai serch a araf ond rhai hwyliog hefyd.

Sawl gwaith ydach chi wedi bod yn ymarfer?
Yn wythnosol ond mae'n hwyl.

Ydi'r sioe yn rhoi llawer o gyfleoedd i chi?
Yndi yn sicr oherwydd oni bai am y sioe ni fyddaf yn cael siawns i gael rhan unigol fel hyn!


Gwen Owen

Be ydi dy ran di yn y sioe?
Dwi yn y côr ac yn un o'r angylion.

Wyt ti'n mwynhau cymeryd rhan yn y sioe? Pam?
Yndw mae'n hwyl cael gwneud rhywbeth gwahanol i'r arfer oherwydd dydw i ddim yn cael cyfle i berfformio fel yma fel arfer!

Wyt ti'n mwynhau perfformio Gris?
Yndw! Ffan mawr o'r ffilm a'r caneuon!

Sawl gwaith ydach chi wedi bod yn ymarfer?
Dipyn oherwydd mae gymaint o waith dysgu.

Ydi'r sioe yn rhoi llawer o gyfleoedd i chi?
Yndi! Mae'n gyfle i gymdeithasu a magu hyder drwy berfformio!


Gronw Ifan

Be ydi dy ran di yn y sioe?
Yn y band yn chwarae piano.

Wyt ti'n mwynhau cymeryd rhan yn y sioe? Pam?
Yndw! Mae'n gyfle i gael chwarae â eraill fel grŵp a cael eu perfformio i gynulleidfa a gwella fy sgiliau.

Wyt ti'n mwynhau perfformio Gris?
Yndw! Mae ambell ddarn heriol ond dw i'n mwynhau eu perfformio.

Sawl gwaith ydach chi wedi bod yn ymarfer?
Yn wythnosol ond wedi mwynhau oherwydd ei fod yn wahanol i waith coleg.

Ydi'r sioe yn rhoi llawer o gyfleoedd i chi?
Yndi! Mae'n rhoi cyfle i ni gyfarfod pobl newydd ac i gyfarfod pobl sydd yn dangos diddordeb mewn cerdd!

Comments

Popular posts from this blog

Sorela

Cyfweld Lleucu Gwawr

Emyr Rhys