Gŵyl Gerdd Dant Blaenau Ffestiniog a'r Fro 2018

Fy mhrofiad i yn yr wŷl gyda Aelwyd Chwilog a Côr Yr Heli
Roedd yr wŷl eleni yn un llwyddiannus iawn i Aelwyd Chwilog. Cymerais i ran yn y parti cerdd dant oedran uwchradd a daethom yn 3ydd. Mwynhais gystadlu yn fawr iawn. Hwn oedd y 3ydd tro yn cystadlu yn yr Wŷl Gerdd Dant gyda'r aelwyd, felly roedd yr holl waith caled yn werth o yn y diwedd. Hoffwn ddiolch yn fawr i Carys Jones am ein hyfforddi gyda'r cerdd dant ond hefyd i Pat Jones am hyfforddi'r alaw werin a Alun Jones yn hyfforddi'r partïon llefaru. Bûm yn cystadlu gyda Côr Yr Heli hefyd yn y gystadleuaeth Côr Cerdd Dant Agored a daethom yn 3ydd. Hoffwn ddiolch i Gwenan Gibbard a Alwena Roberts am eu holl waith caled yn ein hyfforddi.
Mae cystadlu mewn digwyddiadau fel hyn yn bwysig iawn yn fy marn i oherwydd mae'n helpu gyda hyder ac yn brofiad gwerth chweil. Mae'n bwysig cadw ein diwylliant yn fyw a cadw'r traddodiadau i fynd! Byddwn yn argymell i unrhyw un ohonoch ymuno â chôr oherwydd mae'n rhywbeth hynnod dda i ni a dylai pawb ei drio! Mae bod yn rhan o'r ddau gôr wedi helpu fy hyder ac wedi rhoi cyfleoedd newydd i mi gymdeithasu a rwyf wedi dod ar draws ffrindiau newydd sydd yn rhannu yr un diddordeb â mi sef canu! Rheswm arall pam y byddwn yn awgrymu unrhyw un i ymuno â chôr byddai oherwydd mae mynd i'r ymarferion yn ddihangfa o brysurdeb bywyd ac yn rhywbeth braf i'w wneud!
_________________________________________________________________________________
"Hyfryd oedd gweld cyn nifer yn cystadlu unwaith eto eleni. Braf oedd gweld cyn nifer o fyfyrwyr y coleg yn parhau i ymddiddori yn eu diwylliant ac yn cystadlu'n frwd mewn llu o gystadlaethau gyda'r aelwyd leol, Aelwyd Chwilog. Mawr oedd llwyddiant yr Aelwyd eto eleni wrth iddynt ddod yn fuddugol mewn sawl cystadleuaeth! Cyntaf yn y Grŵp Llefaru Oedran Cynradd, cyntaf gyda Grŵp Llefaru Uwchradd, trydydd gyda'r Parti Cerdd Dant Oedran Uwchradd a thrydydd gyda'r Parti Gwerin Oedran Uwchradd. Mae ein diolch yn fawr iawn i Alun Jones, Carys Jones a Pat Jones am wirfoddoli eu hamser ar hyd y blynyddoedd ag i roi cyfleoedd i bobl ifanc y fro! Braf oedd clywed ceiniciau cyfoethog Einir Wyn Jones mewn sawl cystadleuaeth eleni hefyd a hithau yn wyneb cyfarwydd i ni fel myfyrwyr Coleg Meirion Dwyfor. Hyfforddodd sawl parti cerdd dant o’r ardal wrth ddysgu’n ysgol Glan y Môr. Cafwyd perfformiad gwefreiddiol gan Gôr yr Heli yng nghystadleuaeth y corau cerdd dant, ac roedd yn galonogol gweld rhai o fyfyrwyr presennol y coleg ynghyd a chyn-fyfyrwyr yn aelodau o'r côr. Ymlaen am Lanelli yn 2019!"
Gronw Ifan
Disgybl Lefel A Cerdd
Comments
Post a Comment