Posts

Caneuon Hapus CMD Pwllheli 30/03/2020

Image
Gan ei bod mewn lockdown dyma benderfynu gwneud rhestr chwarae o ganeuon hapus. Felly dwi wedi gofyn i staff a myfyrwyr am 3 cân sy'n eu gwneud nhw'n hapus a pham. Ar ddydd Llun nai rannu 3 dewis a'r reswm y tu ôl iddyn nhw. Mae'r rhestr chwarae ar gael fama os da chi eisiau gwrando ar y caneuon i gyd. Caneuon Hapus CMD Pwllheli 2020 Ac ar ddydd Iau nai rannu 1 o fy newis i gan roi chydig bach o fanylder am y gân. Felly cofiwch ddod nôl i glywed trac y dydd bob dydd Iau! ----------------------------------------- As we are in lockdown I thought it would be good to have a playlist of happy songs. So, I've asked staff and students for 3 songs which make them happy and why. On Monday, I'll share 3 of the songs chosen and the reason behind them. The playlist is here if you'd like to listen to all of the songs.  Caneuon Hapus CMD Pwllheli 2020 And on Thursdays, I'll share 1 song of my choice by giving you more details about the song. ...

Cyngerdd Heno / Concert Tonight

Cyngerdd yn fama ar Facebook heno - 7:30. Concert here on Facebook tonight - 7:30. https://www.facebook.com/mairecarrollpiano/?__tn__=kCH-R&eid=ARDrXfd2ZQx1nyitkBxKYrRUHu09OYWTHBEsYxox72LGXIy6aryZmlnyeEbxJcQ8HIZmI-KeFcnNR98L&hc_ref=ARQn1dR6sEikteywLpvTSWtS5uD2QF9SSPwmflSLlMJaA3t5vjap9exgQKXynXBYNsA&fref=nf&__xts__[0]=68.ARB-Ih6y2ZJlTBDXP0RtAz5TX4qCrHTqNJgt2JEJHNOGiP2-i3keOeK4xdwkNVcgpDcsYMg7Ad1F-Pc9k4ZPNG-BfO1z6A_4CCY0IxFUNHlurYV9eqUcDrXsxPMKOrKy1HXdoZzkBigs02_utorGoXWqZbOPT2aVashkKqPO4CGZ-sFz7cAhgPwWK6roV-DtuvjF4_MYtpPR2S7--O_c9SlCQtXaTnKr3se05l1H6K5OHGFe-_heQlmn-R4cRuypoiMneQLmEy7RWU_po4_63Zd1QlGQtwKyidKLmU4M90D3QhVwzgNymqP8JCJH5vi6IndPb-B48KfhrMKU46Q

Cyngerdd BBC Philharmonic, Neuadd Bridgewater, Manceinion 18/01/2020

Image
Daeth criw Cerdd CMD Pwllheli a chriw Cerdd CMD Dolgellau at ein gilydd i fynd am drip ar fore oer fis Ionawr. Roedden ni'n mynd i Fanceinion i gael gweld un o ddarnau mwyaf arloesol a chyffrous y Cyfnod Rhamantaidd sef  Symphonie Fantastique  gan Berlioz. Wedi cyrraedd Manceinion a mynd i ymweld a siop gerdd enwog Forsyth, piciad o gwmpas chydig o siopa a chael swper (gweler y llun). Aethom ni i Neuadd Bridgewater i weld Cerddorfa Ffilharmonig y BBC. I ddechrau'r cyngerdd roedden nhw'n chwarae  Night Ferry  gan y cyfansoddwr Anna Clyne. Roedd na elfennau rhaglennol difyr o'r darn yma gyda theimlad cerddoriaeth ffilm iddo fo.  Roedd o hefyd yn gyfle i weld nifer o dechnegau offerynnol diddorol yn cael eu defnyddio. Wedyn roedden nhw'n chwarae  The Lark Ascending  gan Vaughan Williams. Yr unawdydd oedd Jennifer Pike. Mae hwn yn ddarn andros o hudol ac roedd Jennifer Pike yn ei chwarae i gyd efo'i llygaid ar gau bron. Anhygoel. Yn yr ail hanner...

Dydd Miwsig Cymru - Celebrating Welsh Music 07/02/2020

Image
Ar ddydd Gwener, Chwefror y 7fed byddwn yn dathlu Dydd Miwsig Cymru. Fel rhan o weithgareddau'r diwrnod rydym yn casglu hoff ganeuon staff a myfyrwyr y grŵp. Byddwn yn casglu'r caneuon i greu rhestr chwarae. Dyma'r linc i gofnodi dy hoff gân di. Holiadur Dydd Miwsig Cymru ---------------------------------------------------- On Friday, the 7th o February we'll be having a day of Celebrating Welsh Music. As a part of the activities we're collecting the favourite Welsh song form gllm staff and students. After which we'll be making a playlist of them. This is the link to note your favourite song. Celebrating Welsh Music Questionnaire

Cyngerdd BBC NOW 22/11/2019

Image
Nos Wener (22 o Dachwedd) aeth criw ohonom i gyngerdd BBC NOW yn Neuadd PJ ym Mangor. Mae BBC NOW yn awyddus iawn i fyfyrwyr a disgyblion fynd i'w cyngherddau ac am ei gwneud mor hawdd a phosibl i griwiau fel ni fynd. Felly'r cwbwl oedd ei angen i ni ei wneud oedd trefnu trafnidiaeth i'r cyngerdd. Roedd y gerddorfa'n chwarae Consierto i'r Ffidil yn D fwyaf gan Brahms a Symffoni Rhif 9 gan Dvorak. Yr unawdydd ar y noson oedd Aleksey Semenenko a'r arweinydd oedd Clemens Schuldt. Mae Neuadd PJ yn lle anhygoel i fynd i wylio cerddorfa'n chwarae. Mae'r sain yno yn drawiadol. Roedd posibl clywed pob nodyn roedd yr unawdydd yn ei chwarae er gwaethaf bod y gerddorfa'n llawer mwy niferus. Ac roedd yr unawdydd wir yn firtiwosydd, gan ein gadael yn gegrwdd ar gyfnodau. Mae'r symudiad olaf o'r consierto, ar ffurf rondo ac yn ddarn adnabyddus a chofiadwy. Da oedd cael gweld technegau fel tagiadau dwbwl yn cael eu perfformio yn fyw. Mae'r symffoni gan...

Cyngerdd Ensemble Cymru 04/11/2019

Image
Ddechrau'r mis bu rai o'r myfyrwyr cerdd a minnau yng nghyngerdd Ensemble Cymru yn Neuadd Dwyfor. Mae Ensemble Cymru yn grŵp offerynnol sy'n perfformio gweithiau siambr ac yn hyrwyddo gweithiau gan gyfansoddwyr Cymreig cyfoes. Rydym wedi bod yn ceisio mynychu'r cyngherddau tymhorol yma gan eu bod yn cyflwyno rhaglen ddifyr o gerddoriaeth. Ac maent gyngerddau da i fynd iddyn nhw gan eu bod nhw'n eithaf byr, ac yn cynnwys paned o de a chacen gri! Eleni yn lle cynnal cyngerdd byr mae'r Ensemble yn perfformio rhaglen chydig yn hirach. Y rhaglen cawsom ei chlywed oedd Wythawd Schubert a darn newydd sbon gan John Metcalf. Heb os, fy uchafbwynt o'r cyngerdd i mi oedd darn John Metcalf. Roedd y cyfansoddwr yno'n trafod ei waith ac yn egluro ei ddehongliad gwahanol o'r ffurf Thema ac Amrywiadau. Mae alaw werin Gymreig yn cael ei dadorchuddio'n raddol drwy'r darn gyda'r thema yn cael ei glywed yn gyflawn ar y diwedd yn lle ar y dechrau. ...

Cyngerdd Llyfrgell / Library Concert

Image
Dewch i weld myfyrwyr cerdd y coleg yn perfformio yng ngyntedd Neuadd Dwyfor a Llyfrgell Pwllheli ar y 29ain o Dachwedd. Byddant yn perfformio darnau offerynnol unawdol a rhai'n canu darnau o'r sioe gerdd Siop y Siambr Arswyd .  -------------------------------------- Come and see music students from the college perform in the reception of Neuadd Dwyfor and the Library on the 29th of November.  They'll be performing individual instrumental pieces and some will be singing songs from our recent performance of the Little Shop of Horrors .