Can y Dydd 09/04/20 / Song of the Day 09/04/20
Dwi'n meddwl mai cerddoriaeth sy'n neud i chi fod eisiau dawnsio ydy'r gerddoriaeth hapus ora. Mae Trials of Cato yn fand gwerin wnaeth argraff go iawn efo'u halbym gynta ha Hide and Hair rhyddhawyd llynedd. Beth sy'n unigryw amdayn nhw ydy does na'm telyn, ffidil na ffliwt ar eu cyfyl ac eto mae nhw'n llwyddo i ddal afiaith cerddoriaeth werin i'r dim. Yn y band mae gitar acwstig, mandolin a baswci. Camp y band yma ydy sut mae nhw'n amrywio gwead eu cerddoriaeth gan ddefnyddio tawelwch yn ofalus ac effeithiol iawn. Fe wnaeth aelodau'r band gyfarfod pan oedden nhw'n gweithio yn Beirut, Lebanon a fuo nhw'n gweithio ar eu crefft. Cafodd eu halbym gyntaf groeso gwresog ac roedden nhw i fod i fynd i recordio eu hail albwm yn America ond yn amlwg mae hynny i gyd ar stop ar hyn o bryd. Felly, dwi wedi penderfynu rhannu Haf ganddyn nhw yma heddiw, dwi ddim yn gwybod am lle da chi ond mae hi mor braf yma, faswn i ddim yn gallu rannu dim b...