Hoff gân Queen

Llun: Stereogum Rwy'n siwr eich bod wedi clywed am y fflim, Bohemian Rhapsody (mae'n boblogaidd iawn!). Mae'r ffilm wedi ennil dipyn o wobrau a mae brolio mawr wedi bod. Mae hon yn fflim gwerthchweil i unrhywun sydd â diddordeb mewn cerddoriaeth yn enwedig oherwydd ein bod ni ar ganol astudio Roc a Pop fel rhan o ein cwrs AS Cerddoriaeth. Felly es i ati i holi rhai o fy ffrindiau am eu hoff trac gan y band Queen. Alaw Another One Bites The Dust - Heb unrhyw amheuaeth dyma fy hoff gân gan y band oherwydd mae'n gwneud i chi eisiau symud eich traed i'r beat yn syth oherwydd mae'r bas yn ei gwneud yn "catchy" a mae'r riffs ar y gitar a'r clapio yn ei gwneud yn gofiadwy! Erin Don't stop me know - Dyma fy hoff gân oherwydd mae hi'n glasur o gân ac yn un sydd yn aros yn y cof ar ôl gwrando arni unwaith. Rheswm arall dros dewis y gân yma fel fy ffefryn ydi ei bod hi yn gân mor "catchy" ac yn sicr byddwch yn ei chanu yn eich p...