Posts

Showing posts with the label CanyDydd

Shards & Isolation Choir

Image
Dyma drac i mi ei chlywed ar y radio chydig wythnosa nol. Mae o'n ddarn mor hardd am y sefyllfa yda ni ynddi dyddia ma. A dwi wrth fy modd efo'r geiria: If I can't take flight then inside I'll sing Dyma'r fideo oddi ar youtube ac mae posibl ei ffeindio ar spotify hefyd.      Mae'r gan ar ffurf stroffig (penillion) ac mae'n werth gwrando ar y trefniant gwahanol sydd ymhob pennill.  -------------------------------------------------------- Here's a track I heard on the radio a few weeks back. It's a beautiful piece about the situation we're in these days. And I think the words are beautiful: If I can't take flight then inside I'll sing. Here's the video which is on youtube and it's possible to find the song on spotify as well. The song is in strophic form (verses) and it's lovely to listen how the arrangement of each verse is different.    

Can y Dydd 09/04/20 / Song of the Day 09/04/20

Image
Dwi'n meddwl mai cerddoriaeth sy'n neud i chi fod eisiau dawnsio ydy'r gerddoriaeth hapus ora. Mae Trials of Cato yn fand gwerin wnaeth argraff go iawn efo'u halbym gynta ha Hide and Hair   rhyddhawyd llynedd. Beth sy'n unigryw amdayn nhw ydy does na'm telyn, ffidil na ffliwt ar eu cyfyl ac eto mae nhw'n llwyddo i ddal afiaith cerddoriaeth werin i'r dim. Yn y band mae gitar acwstig, mandolin a baswci. Camp y band yma ydy sut mae nhw'n amrywio gwead eu cerddoriaeth gan ddefnyddio tawelwch yn ofalus ac effeithiol iawn. Fe wnaeth aelodau'r band gyfarfod pan oedden nhw'n gweithio yn Beirut, Lebanon a fuo nhw'n gweithio ar eu crefft. Cafodd eu halbym gyntaf groeso gwresog ac roedden nhw i fod i fynd i recordio eu hail albwm yn America ond yn amlwg mae hynny i gyd ar stop ar hyn o bryd. Felly, dwi wedi penderfynu rhannu Haf ganddyn nhw yma heddiw, dwi ddim yn gwybod am lle da chi ond mae hi mor braf yma, faswn i ddim yn gallu rannu dim b...

Cân y Dydd 02/04/2020 Song of the Day

Image
Dydd Iau, amser cân y diwrnod! Un o fy mhleserau bach mewn bywyd ydy ar nos Sadwrn am 6 o'r gloch. Ma'i bron yn amser i'r bychan fynd i'w wely, da ni wedi cael diwrnod braf yn gwylio chwaraeon/clirio/postian ac wedyn ar 6Music mae'r Craig Charles Funk and Soul Show. Hwn ydy fy "lle hapus" i. Dwi'n gallu dawnsio rownd y gegin, eistedd yn yr ardd, coginio, neu ddarllen ac mae'r gerddoriaeth yma'n berffaith i bob dim, ac yn berffaith ar gyfer nos Sadwrn. Felly, pa gân well i ddechrau'n cyfres o ganeuon dydd Iau ni na chân glywais i ar un o'r rhaglenni yma. Mae See You Next Tuesday yn gân wedi ei chynhyrchu gan ddau artist The Nextmen a'r Gentlemen's Dub Club ac yn cyfuno arddulliau dyb , ffync a reggae yn gelfydd. Mae The Nextmen yn gynhyrchwyr o fri ac wedi ailgymysgu traciau i nifer fawr o fandiau dwi'n siwr fasa chi wedi clywed amdanyn nhw. Mae'r Gentlemen's Dub Club yn fand sydd wedi teithio'r byd efo...